Agor y brif ddewislen

Edward IV, brenin Lloegr

(Ailgyfeiriad oddi wrth Edward IV o Loegr)

Edward IV (28 Ebrill 14429 Ebrill 1483) oedd brenin Lloegr o 3 Mawrth 1461 i 30 Hydref 1470, ac o 4 Mai 1471 hyd ei farwolaeth.

Edward IV, brenin Lloegr
Edward4.jpg
Ganwyd 28 Ebrill 1442 Edit this on Wikidata
Rouen Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Ebrill 1483 Edit this on Wikidata (40 oed)
Westminster Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaeth teyrn Edit this on Wikidata
Swydd Dug Iorc, brenin Lloegr, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Tad Richard o York, 3ydd dug York Edit this on Wikidata
Mam Cecily Neville, Duchess of York Edit this on Wikidata
Priod Elizabeth Woodville Edit this on Wikidata
Plant Elisabeth o Efrog, Mary o York, Cecily o York, Edward V, Margaret o York, Richard o Shrewsbury, dug cyntaf York, Anne o York, George Plantagenet, dug 1af Bedford, Catherine o York, Bridget o York, Arthur Plantagenet, is-iarll 1af Lisle, Elizabeth Plantagenet, Edward de Wigmore, Grace Plantagenet Edit this on Wikidata
Llinach Iorciaid Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Urdd y Cnu Aur Edit this on Wikidata
Llofnod
Edward IV signature.svg

Roedd yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog. Cafodd ei eni yn Rouen, Ffrainc. Ei wraig oedd Elizabeth Woodville.

Yng NghymruGolygu

Pan goronwyd Edward IV yn 1461 llac oedd ei afael ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a phrin oedd ei ddilynwyr yn y gorllewin a'r gogledd. Yn dilyn brwydr Towton, ym Mawrth 1461, dyrchafwyd Wiliam Herbert i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru: yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi, tiroedd Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Gwynllwg. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, a syrthiodd castell Penfro i ddwylo Herbert. Yno roedd y bachgen pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerwyd ef gan Herbert i Raglan ac yno y magwyd Harri Tudur hyd 1469. Trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a ffôdd am ei fywyd i Iwerddon.

Prin oedd awdurdod Edward IV yn nhair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert ddod â byddin anferthol i Wynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd castell Harlech iddo ar 14 Awst, a chanodd Guto'r Glyn gywydd i longyfarch Herbert, gan ofyn ar yr un gwynt iddo ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd.

PlantGolygu

Rhagflaenydd:
Harri VI
Brenin Lloegr
4 Mawrth 146131 Hydref 1470
Olynydd:
Harri VI
Rhagflaenydd:
Harri VI
Brenin Lloegr
11 Ebrill 14719 Ebrill 1483
Olynydd:
Edward V
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.