Edward Kyffin
Bardd Cymraeg a chyfieithydd oedd Edward Kyffin (hefyd Edward Cyffin) (tua 1558 – 1603). Ei brif waith llenyddol oedd cyfieithiad Cymraeg o ran o Salmau Dafydd. Roedd yn frawd i'r awdur a milwr Morris Kyffin.
Edward Kyffin | |
---|---|
Ganwyd | 1557 Croesoswallt |
Bu farw | 1603 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, bardd, clerig |
Ganed Edward Kyffin yng Nghroesoswallt, Swydd Amwythig tua'r flwyddyn 1558. Offeiriad Anglicanaidd ydoedd o ran ei alwedigaeth.[1]
Cyfansoddodd drosiadau mydryddol ar fesur rhydd o hanner cant o salmau. Cafodd deuddeg o'r salmau hynny eu hargraffu gan Thomas Salisbury yn 1603 wrth y teitl Rhan o Salmau Dafydd Broffwyd. Roedd Salisbury yn byw yn Llundain ac roedd Edward yno gyda fo yn 1603 pan dorrodd y pla allan yn y ddinas. Dihangodd Salisbury ond arosodd Kyffin a bu farw o'r pla. Diflanodd y llyfrau i gyd yn dilyn hynny ac eithrio un copi a anfonwyd gan Salisbury neu Kyffin fel sampl o'r gwaith cyn ei gyhoeddi at Syr John Wynn o Wydir. Cyfrol Wynn yw'r unig gopi o'r gwaith anghyhoeddedig y gwyddys amdano heddiw; fe'i cedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Rhan o Salmau Dafydd Broffwyd, gol. gan John Ballinger (Gwasg Prifysgol Cymru, 1930).
- 'Y Salm Gyntaf', yn Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, gol. Nesta Lloyd (Cyhoeddiadau Barddas, 1993).