Edward Richard
Bardd ac ysgolhaig o Geredigion oedd Edward Richard (mis Mawrth 1714 – 4 Mawrth 1777). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei ddwy fugeilgerdd.[1][2]
Edward Richard | |
---|---|
Ganwyd | Mawrth 1714 Ystrad Meurig |
Bu farw | 28 Chwefror 1777 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganed yn Ystrad Meurig, uwchben Dyffryn Teifi, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Roedd yn fab i deiliwr a thafarnwr. Cafodd ei fam Gwenllian ddylanwad mawr ar y bardd. Roedd ganddo un frawd, Abraham. Cafodd ei addysg yn yr ieithoedd Groeg a Lladin ganddo ar ôl iddo raddio o Brifysgol Rhydychen a dychwelyd i Ystrad Meurig. Aeth Edward i Ysgol Ramadeg Caerfyrddin lle cafodd ei drwytho yn y clasuron. Pan ddychwelodd i'w fro yn 1736 agorodd ysgol elfennol ac yno y bu am weddill ei oes yn athro ysgol a myfyriwr y clasuron Groeg a Lladin. Ymhlith ei ddisgyblion oedd John Williams, mab William Williams Pantycelyn, Dafydd Ionawr, meibion Lewis Morris ac Ieuan Fardd.
Gwaith llenyddol
golyguDim on dyrnaid o gerddi Edward Richard a gyhoeddwyd ond mae eu hansawdd yn uchel (credir fod nifer o gerddi eraill, yn ei lawysgrif ei hun, wedi diflannu). Ceir dwy gân werinol am ei fro, emyn, cyfieithiad o faled gan John Gay ac englynion ar farwolaeth plentyn. Ei waith pwysicaf yw'r ddwy fugeilgerdd a gyhoeddwyd yn 1765 a 1776. Mae dyled Edward Richard i'r bardd Groeg Theocritus yn amlwg, ond nid efelychiaid arwynebol ydynt. Mae'r gyntaf yn coffhau ei fam Gwenllian a'r ail yn ymddiddan rhwng dau fugail, Gruffudd a Meurig, sy'n cyfuno elfennau personol a chymdeithasol.
Addfwynder myfyrgar yw prif nodwedd ei waith, ynghyd â naturioldeb a glendid arddull. Gwelir hyn yn ei ddau englyn syml ond trawiadol ar farwolaeth plentyn, er enghraifft. Dyma'r cyntaf:
- Trallodau, beiau bywyd - ni welais,
- Nac wylwch o'm plegyd;
- Iach wyf o bob afiechyd,
- Ac yn fy medd, gwyn fy myd.
Llyfryddiaeth
golyguGwaith y bardd
golyguCeir testunau o'r bugeilgerddi a cherddi eraill yn:
- O.M. Edwards (gol.), Gwaith Edward Richard (Llanuwchllyn, 1912)[3]
- D. Gwenallt Jones (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1953)
Llyfryddiaeth
golygu- John Gwilym Jones, 'Edward Richard ac Evan Evans (Ieuan Fard)', yn Dyfnallt Morgan (gol.), Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (Llyfrau'r Dryw, 1966
- D.G. Osborne-Jones, Edward Richard of Ystradmeurig
- Aneirin Lewis, Dysg a Dawn: Cyfrol Goffa Aneirin Lewis, gol. W. Alun Mathias ac E. Wyn James (Cylch Llyfryddol Caerdydd, 1992)
- Saunders Lewis, A School of Welsh Augustans (1924)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwaith Edward Richard, Cyfres y Fil (1912) Bugeilgerdd y Gyntaf ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Edward Richard, Cyfres y Fil (1912) Bugeilgerdd yr Ail ar Wicidestun
- ↑ Gwaith Edward Richard ar Wicidestun