David James Jones (Gwenallt)
Roedd Gwenallt (18 Mai 1899 – 24 Rhagfyr 1968) (David James Jones) yn un o feirdd mwyaf yr 20g. Fe'i ganwyd ym Mhontardawe ond fe symudodd y teulu yn fuan i'r Alltwen, yng Nghwm Tawe.
David James Jones | |
---|---|
Ffugenw | Gwenallt ![]() |
Ganwyd | 18 Mai 1899 ![]() Pontardawe ![]() |
Bu farw | 1968, 24 Rhagfyr 1968 ![]() Aberystwyth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd ![]() |
Cyflogwr | |
Priod | Nel Edwards ![]() |
Ei fywyd a'i waithGolygu
Cafodd marwolaeth ei dad a laddwyd gan fetel tawdd yn y gwaith tun effaith ddofn arno. Er ei fagu mewn ardal ddiwydiannol roedd dylanwad ardal wledig Rhydcymerau Sir Gaerfyrddin arno hefyd, am iddo ymweld ac aros gyda pherthnasau yno lawer yn ei fachgendod.
Roedd yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ac fe'i siomwyd pan na chafodd ei apwyntio i fod yn Athro ar yr adran i ddilyn T. H. Parry-Williams. Ef oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn llenyddol Taliesin a gyhoeddir gan yr Academi Gymreig.
Am ei fod yn wrthwynebydd cydwybodol fe'i carcharwyd yn Wormwood Scrubs a Dartmoor ac ysgrifennodd ei nofel Plasau'r Brenin o ganlyniad i'r profiad hwnnw.
Daeth yn amlwg fel bardd pan enillodd ei awdl Y Mynach gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1926. Enillodd y Gadair eto yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1931 gyda Breuddwyd y Bardd.
Pan yn ifanc arferai fynd i'r capel yn gyson ond wedyn coleddodd syniadau Marcsaidd. Newidiodd ei farn eto a daeth yn Genedlaetholwr Cymraeg a Bardd Cristnogol oedd Gwenallt.[1] Mae recordiad o Gwenallt yn darllen tri o'i gerddi ar gael ar CD a gwefan gan Sain.
LlyfryddiaethGolygu
NofelauGolygu
- Plasau'r Brenin (1934)
- Ffwrneisiau (1982)
CerddiGolygu
- Ysgubau'r Awen (1939)
- Cnoi Cil (1942)
- Eples (1951)
- Gwreiddiau (1959)
- Y Coed (1969)
- Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn, gol. Christine James (2001)
- http://www.sainwales.com/store/sain/sain-scd2718
Gwaith golygyddol a beirniadaeth lenyddolGolygu
- (gol.), Yr Areithiau Pros (Caerdydd, 1934)
- (gol.), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936)
- (gol.), Detholiad o Ryddiaith Gymraeg R. J. Derfel (Caerdydd, 1945)
- Cofiant Idwal Jones (1958)
AstudiaethauGolygu
Paratowyd llyfryddiaeth o weithiau Gwenallt gan Iestyn Hughes (1983).
- J. E. Meredith, Gwenallt, Bardd Crefyddol (1974)
- Dafydd Rowlands (gol.), Bro a Bywyd: Gwenallt (1982)
- Alan Llwyd, Gwenallt: Cofiant D. Gwenallt Jones, 1899-1968 (2016)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ D. Ben Rees, Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif ( Cyhoeddiadau Modern Cymru, 1972)