Edward Stanley

Aelod Seneddol cyntaf etholaeth Meirionnydd

Edward Stanley (cyn 1513 - tua 1564) oedd Aelod Seneddol cyntaf etholaeth Meirionnydd yn Senedd Lloegr wedi i'r Deddfau Uno creu etholaethau seneddol Cymreig.[1]

Edward Stanley
Ganwyd1513 Edit this on Wikidata
Y Fflint Edit this on Wikidata
Bu farw1564 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd Lloegr 1542-44 Edit this on Wikidata
Castell Harlech, 1610

Roedd Edward yn ail fab Peter Stanley o'r Fflint a Janet ferch Syr Thomas Butler. Mae'n debyg, ond nid yn hollol sicr, mae ef oedd yr Edward Stanley a raddiodd o Brifysgol Rhydychen ym 1526[2] Priododd Ellen merch anghyfreithlon Maredudd ab Ifan ap Robert o Ddolwyddelan a Gwydir,[3] gan hynny roedd yn ewythr drwy briodas i Syr John Wynn o Wydir. Bu iddynt pum mab a thair merch.[4]

Gwasanaethodd Stanley fel dirprwy Gwnstabl Castell Harlech rhwng 1534 a 1551 ac yn Gwnstabl y Castell o 1551 i 1559, bu'n un o Ynadon Heddwch Meirion o 1534 ymlaen ac yn Uchel Siryf y Sir ym 1544, 1552 a 1559.

Mae Edward yn cael ei grybwyll mewn cywydd gan Gruffudd Hiraethog :

Edward ffres â dewrwaed ffrwyth
Ystanli, a phost henlwyth
Cwnstabl yw, cans da ei blaid
Caer Collwyn, curo gwylliaid[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Kalendars of Gwynedd: Or, Chronological Lists of Lords-lieutenant, Custodes Rotulorum, Sheriffs, and Knights of the Shire, for the Counties of Anglesey, Caernarvon, and Merioneth, and of the Members for the Boroughs of Caernarvon and Beaumaris. To which are Added Lists of the Lords Presidents of Wales and the Constables of the Castles of Beaumaris, Caernarvon, Conway, and Harlech gan Edward Breese 1873 t 69. Copi ar-lein: [1] adalwyd 28 Rhagfyr 2015
  2. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 [2] adalwyd 28 Rhagfyr 2015
  3. History of parliament on line STANLEY, Edward I (by 1513-64 or later), of Harlech, Merion [3] adalwyd 28 Rhagfyr 2015
  4. 4.0 4.1 Davies, Glenys; T108 Noddwyr Beirdd ym Meirion; Archifdy Sir Feirionnydd 1974
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Swydd newydd
Aelod Seneddol Meirionnydd
1542
Olynydd:
Rhys Vaughan