Rhys Vaughan (Cors y Gedol)
Roedd Rhys Vaughan, (tua 1523-tua 1581) yn dirfeddiannwr a gwleidydd o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Meirionnydd yn Senedd Lloegr rhwng 1545 a 1547[1]
Rhys Vaughan | |
---|---|
Ganwyd | c. 1523 |
Bu farw | c. 1581 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1545-47 |
Bywyd personol
golyguGanwyd Robert Vaughan tua 1523 yn fab i William Vaughan, perchennog ystadau Cors y Gedol, Llanddwywe is y graig, Meirionnydd ac ystâd Cilgerran, Sir Benfro. Ei fam oedd Margaret ferch Syr William Perrot, Haroldston, Sir Benfro.
Priododd Gwen ferch Gruffydd ap Gwilym ap Madog Fychan; bu iddynt o leiaf 3 mab a 4 merch.[2]
Gyrfa
golyguEtifeddodd Rhys ystadau ei dad tua 1544 gan dreulio'i oes fel sgweier cefn gwlad di-nod. Fel sgweier fe gyflawnodd y dyletswyddau cyhoeddus disgwyliedig i fonheddwr yn oes y Tuduriaid. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Meirionnydd rhwng 1547-48. Ar ôl lofruddiaeth y Barwn Lewys ab Owain gwblhaodd dymor y Barwn o Dachwedd 1555 i 1556 gan wasanaethu yn y swydd eto yn nhymor 1557. Gwasanaethodd fel Comisiynydd Rhyddhad ym 1550; Comisiynydd y Rhôl Cymorth ym 1556, Siedwr 1566-67 ac fel Ynad Heddwch o tua 1558 hyd ei farwolaeth.
Gyrfa wleidyddol
golyguGwasanaethodd yn Senedd Lloegr fel Aelod Seneddol Meirionnydd rhwng 1545 a 1547. Galwyd y Senedd ar 30 Ionawr 1545 a chafodd ei ddiddymu ar farwolaeth Harri VIII; 28 Ionawr 1547.
Marwolaeth
golyguYsgrifennodd ewyllys ar Awst 8 1580 a chafodd ei brofi ar 6 Mawrth 1582; mae’n amlwg ei fod wedi marw rhywbryd rhwng y ddau ddyddiad. Yn ei ewyllys mae’n gofyn am roi ei weddillion i orwedd yn Eglwys Llanddwywe.[1]
Cyfeiriadau
golyguSenedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Edward Stanley |
Aelod Seneddol Meirionydd 1545 – 1547 |
Olynydd: Lewys ab Owain |