Gruffudd Hiraethog

bardd ac achyddwr

Bardd a herodr oedd Gruffudd Hiraethog (m. 1564). Cafodd ei eni yn Llangollen tua throad yr 16g (nid oes sicrwydd o'r dyddiad). Mae'n bosibl iddo gael y llysenw 'Hiraethog' oherwydd ei gysylltiadau cryf â Phlas Iolyn, cartref Dr Elis Prys (Y Doctor Coch), a leolir ger Mynydd Hiraethog (Sir Ddinbych).[1]

Gruffudd Hiraethog
GanwydLlangollen Edit this on Wikidata
Bu farw1564, 1564 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Gwaith llenyddol golygu

Ei athro barddol oedd Lewys Morgannwg, ac ymhlith ei ddisgyblion roedd Wiliam Llŷn a Wiliam Cynwal. Roedd yn gyfaill i William Salesbury a gyhoeddodd gasgliad o ddiarhebion a loffiwyd o'r llawysgrifau gan Gruffudd, dan y teitl Oll synnwyr pen Kembero ygyd.

Mae 10 awdl, dros 120 cywydd a sawl englyn gan y bardd ar glawr, ynghyd â geiriadur Cymraeg a thestunau herodrol yn ei law ei hun..[1]

Llyfryddiaeth golygu

Testunau golygu

Y golygiad safonol o waith y bardd yw:

Gwaith Gruffudd yw sail llyfr Salesbury:

Astudiaethau golygu

  • D. J. Bowen, Gruffudd Hiraethog a'i Oes (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1958)
  • D. J. Bowen, 'Cywyddau dychan Gruffudd Hiraethog', Studia Celtica (cyf. XII/XIII, 1977-78)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.



  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.