Lewys Dwnn

bardd Cymraeg

Bardd Cymraeg ac achyddwr o Gymru oedd Lewys Dwnn (bl. 15501616) neu Lewys ap Rhys ab Owain fel y'i gelwir weithiau. Mae'n cael ei gydnabod fel un o'r achyddwyr pwysicaf a fu yng Nghymru ac mae ei waith yn ffynhonnell werthfawr i ymchwilwyr i hanes Cymru.

Lewys Dwnn
Ganwyd1550 Edit this on Wikidata
Betws Cedewain Edit this on Wikidata
Bu farw1616 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, achrestrydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaWiliam Llŷn Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Brodor o blwyf Betws Cedewain ym Maldwyn, gogledd Powys oedd Dwnn. Roedd yn un o ddisgynyddion Dafydd Dwnn (Donne) a ffôdd o Sir Gaerfyrddin i Bowys mewn amgylchiadau amheus ar ôl llofruddiaeth maer Caerfyrddin.

Fel bardd, ni roddir llawer o werth ar ei gerddi fel gwaith llenyddol a chydnabyddir yn gyffredinol fod ei awen yn ddi-fflach, er iddo gael ei hyfforddi gan y prifardd Wiliam Llŷn a'r bardd a chroniclydd Hywel ap Mathew. Ond mae ei gerddi yn frith o achau teuluoedd uchelwrol Cymru gyfan ac yn cael eu hystyried yn ffynhonnell bwysig gan achyddwyr a haneswyr.

Casglodd arfbeisiau'r uchelwyr hefyd. Ceir dwy gyfrol o achau - llawysgrifau Peniarth 268 ac Egerton 2585 - wedi'u haddurno ag arfbeisiau yn ei law ei hun ynghyd â sawl testun achyddol arall. Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol gan y Welsh Manuscripts Society yn 1846. Cedwir y llawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Peniarth 268) a'r Llyfrgell Brydeinig (Egerton 2585).

Roedd ei fab James yn fardd hefyd. Canodd gerddi caeth traddodiadol i deuluoedd gogledd Powys, Ceredigion a Meirionnydd.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Lewys Dunn: Heraldic Visitations, dwy gyfrol wedi'u golygu gan Samuel Rush Meyrick a W. J. Rees (Welsh Manuscripts Society, 1846).

Gweler hefyd

golygu
  • Gruffydd Dwnn, gŵr bonheddig a'r enwocaf o Ddwniaid Sir Gaerfyrddin; bu'n byw yn Ystrad Merthyr, ger Cydweli.