Cyn-Aelod Seneddol Seisnig ydy Edwina Currie (ganwyd Edwina Cohen; 13 Hydref 1946). Fe'i hetholwyd fel Aelod Seneddol Y Blaid Geidwadol ym 1983. Bu'n Weinidog Iechyd Ieuaf am ddwy flynedd, cyn ymddiswyddo ym 1988 oherwydd anghydfod ynglŷn â salmonela mewn ŵy. Erbyn i Currie golli ei sedd seneddol ym 1997, roedd hi wedi dechrau ar yrfa newydd fel nofelydd a darlledwraig.

Edwina Currie
Ganwyd13 Hydref 1946 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Man preswylWhaley Bridge Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, nofelydd, dyddiadurwr, llenor Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
PriodRay Currie, John Jones Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.edwinacurrie.co.uk/ Edit this on Wikidata

Bywyd personol

golygu

Ar 1 Gorffennaf 1972, priododd Ray Currie, cyfrifydd, yn Barnstaple, Dyfnaint. Roedd Edwina a Ray yn destun rhaglen ddogfen ar y BBC yng nghyfres The Other Half a ddarlledwyd ym mis Mawrth 1984. Cawsant ddau blentyn. Ysgarodd y cwpl yn 1997. Yn ystod y briodas cafodd Currie garwriaeth gyda John Major, a fyddai ddiweddarach yn Brif Weinidog. Datgelwyd hyn gan Currie ym mis Medi 2002.

Ar 24 Mai 2001 yn Southwark priododd John Jones, ditectif wedi ymddeol a gyfarfu ar ei rhaglen radio yn 1999.[1] Mae'n byw yn Whaley Bridge, Swydd Derby.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Frequently asked questions Archifwyd 14 Tachwedd 2006 yn y Peiriant Wayback, Edwina Currie's official website, 1 September 2004. Retrieved 11 March 2007.
  2. "Whaley Bridge's Edwina sparks more controversy". Buxton Advertiser. 28 February 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 April 2014. Cyrchwyd 27 April 2014.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.