Y duedd i anghofio gwybodaeth sy'n hawdd ei chanfod ar y rhyngrwyd drwy ddefnyddio peiriannau chwilio fel Google yw'r hyn a elwir yn Effaith Google neu amnesia digidol. Yn ôl yr astudiaeth gyntaf ar Effaith Google, mae pobl yn llai tebygol o gofio manylion y maent yn meddwl eu bod nhw ar gael ar lein. Er hynny, honna'r astudiaeth hefyd fod gallu pobl i ddysgu gwybodaeth all-lein yn aros yr un peth.[1]

Effaith Google
Enghraifft o'r canlynolterm, cognitive bias Edit this on Wikidata

Disgrifiwyd ac enwyd y canfyddiad hwn yn gyntaf gan Betsy Sparrow (Columbia), Jenny Liu (Wisconsin) a Daniel M. Wegner (Harvard) yn eu papur ym mis Goffennaf 2011.[2] Pedair rhan oedd gan yr astudiaeth. Yn y rhan gyntaf, bu raid i'r cyfranogwyr ateb nifer o gwestiynau anodd a hawdd am wybodaeth gyffredinol ac yna gwneud tasg Stroop addasedig a oedd yn cynnwys geiriau bob dydd a thechnolegol megis "sgrin" a "Google". Roedd y cyfranogwyr yn arafach yn ymateb i eiriau technolegol, yn enwedig ar ôl cwestiynau anodd, a oedd yn dangos bod cwestiynau ar wybodaeth gyffredinol yn eu preimio i feddwl am gyfrifiaduron. Yn yr ail arbrawf, darllenodd y cyfranogwyr nifer o ddatganiadau ar wybodaeth gyffredinol. Dywedwyd wrth hanner y bobl y byddai'r datganiadau'n cael eu cadw i'w gweld yn nes ymlaen; dywedwyd wrth yr hanner arall fod yn rhaid iddynt geisio'u cofio. Yna, profwyd y ddau grŵp ar eu gallu i ddwyn y datganiadau i gof. Yn y drydedd ran, darllenodd a theipiodd y cyfranogwyr ddatganiadau ar wybodaeth gyffredinol, ac yna dywedwyd wrthynt fod eu datganiadau wedi'u dileu, wedi'u cadw neu wedi'u cadw mewn lleoliad penodol. Wedyn, cawsant dasg adnabod a gofynnwyd iddynt a oeddynt wedi gweld yr union ddatganiad, a oedd ef wedi'i gadw ac os felly, ymhle y cafodd ei gadw. Yn y rhan olaf, fe deipiodd y cyfranogwyr ddatganiadau ar wybodaeth gyffredinol eto a dywedwyd wrthynt i'r rheiny gael eu cadw mewn ffolder dan enw cyffredinol, e.e. "eitemau" neu "ffeithiau". Rhoddwyd dwy dasg gofio wahanol wedyn: un am y datganiadau ac un am y ffolder benodol y cadwyd pob datganiad ynddi.[3]

Bathwyd y term "amnesia digidol" gan Kaspersky Lab ar gyfer canlyniadau eu harolwg heb ei adolygu yn 2015, a ddywedai, "Datgela'r canlyniadau ei bod yn debygol i 'Effaith Google' fynd y tu hwnt i ffeithiau ar-lein a'i bod yn cynnwys gwybodaeth bersonol bwysig."[4] Yn lle cofio manylion, roedd 91 y cant o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd a 44 y cant yn defnyddio'u ffôn clyfar.[4] Roedd Kaspersky Lab wedi gofyn i 1000 o ddefnyddwyr o 16 hyd at fwy na 55 oed yn yr Unol Daleithiau. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni allai pobl gofio gwybodaeth bwysig megis rhifau ffôn a ddylai fod yn gyfarwydd, gan arwain at y casgliad eu bod nhw'n anghofio'r wybodaeth oherwydd ei bod yn hawdd ei chanfod ar eu teclynnau.[5]

Y ffenomen

golygu

Daeth yr astudiaeth wreiddiol yn 2011 i dri phrif gasgliad. Yn gyntaf, mae pobl yn cael eu preimio i feddwl am gyfrifiaduron pan ofynnir cwestiynau am wybodaeth gyffredinol iddynt, hyd yn oed pan fyddant yn gwybod yr ateb cywir. Ar ben hynny, daw'r effaith hon yn amlycach os bydd y cwestiwn yn un anodd ac nad ydynt yn gwybod yr ateb. Yn ail, nid yw pobl yn tueddu i gofio gwybodaeth os ydynt yn credu y bydd ar gael i'w gweld yn nes ymlaen. Mewn cyferfbyniad â hyn, nid yw cyfarwyddyd penodol i gofio'r deunydd yn cael effaith fawr ar y gallu i gofio. Yn olaf, os caiff yr wybodaeth ei chadw, bydd pobl yn llawer mwy tebygol o gofio ble y mae'r wybodaeth yn hytrach na chofio'r wybodaeth ei hun. Hefyd, mae tueddiad i gofio naill ai'r ffaith neu'r lleoliad ond nid y ddau; mae hyn yn wir hyd yn oed pan fydd yr wybodaeth yn fwy cofiadwy nac enw'r lleoliad.[3][6]

Ers hynny, mae astudiaeth yn 2012 gan Lav R. Varshney wedi cynnig y gellid gweld Effaith Google yn nhraethodau hir doethuriaethau, gan honni bod cynnydd hydredol yn nifer y cyfeirnodau yn adlewyrchu tuedd i gofio'n well ble i ganfod gwybodaeth berthnasol, hynny yw, pa bapurau sydd yn cynnwys yr wybodaeth, yn hytrach na beth yw'r wybodaeth ei hun.[7] Hefyd, disgrifiwyd ffenomen debyg, sef bod pobl yn cofio gwybodaeth wedi'i dysgu trwy'r we yn llai cywir ac yn llai hyderus o'i chymaru â gwybodaeth wedi'i dysgu mewn gwyddoniadur. Yn ogystal â hyn, roedd y sawl a oedd yn cofio gwybodaeth o'r rhyngrwyd yn dangos gostyngiad yn yr ysgogiadau mewn sawl rhan o'r ymennydd mewn cymhariaeth â'r garfan a oedd yn cofio o wyddoniadur.[8]

Cof trawsweithredol

golygu

Yn wreiddiol, honnai Sparrow ac eraill mai ffurf ar gof trawsweithredol oedd y ddibyniaeth ar gyfrifiaduron, oherwydd bod pobl yn rhannu gwybodaeth yn rhwydd, yn anghofio'r hyn y maent yn meddwl y bydd ar gael yn nes ymlaen ac yn cofio lleoliad gwybodaeth yn well na'r wybodaeth ei hun. Roedd yr ymchwilwyr hyn yn rhagdybio bod pobl a'u cyfrifiaduron yn dod yn "gyfundrefnau rhyngysylltiedig"; mae'r un prosesau a gaiff eu defnyddio mewn cof trawsweithredol traddodiadol i ddysgu pwy yn ein rhwydweithiau cymdeithasol sydd yn gwybod beth hefyd yn cael eu hehangu er mwyn cynnwys yr hyn y mae cyfrifiadur yn ei wybod a sut y mae cael hyd iddo.[3]

Er hynny, mae sawl ymchwilydd wedi gofyn ai ffurf ar gof trawsweithredol yw Effaith Google drwy ddadlau nad oes gweithrediad rhwng yr unigolyn a'r cyfrifiadur. Felly ni ellir ystyried rhwydweithiau cyfrifiadurol a'r rhyngrwyd yn gyfundrefn wybyddol ddosbarthedig. Yn hytrach, dim ond offer wedi'u defnyddio i helpu i sbarduno atgof neu i ganfod gwybodaeth yn rhwydd yw cyfrifiaduron. Yn wahanol i gof trawsweithredol traddodiadol, ni chollir yr wybodaeth heb y rhyngrwyd ond arafach yw hi ac anos ei chanfod.[9][10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Krieger, Lisa M. (16 Gorffennaf 2011). "Google changing what we remember". San Jose Mercury News. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2015.
  2. "Study Finds That Memory Works Differently in the Age of Google". Columbia University. July 14, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-17. Cyrchwyd 2017-02-01.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  3. 3.0 3.1 3.2 Sparrow, B.; Liu, J.; Wegner, D. M. (August 5, 2011). "Google Effects on Memory: Cognitive Consequences of Having Information at Our Fingertips". Science 333 (6043): 776–778. doi:10.1126/science.1207745. PMID 21764755. http://scholar.harvard.edu/files/dwegner/files/sparrow_et_al._2011.pdf. Adalwyd 2017-02-01.
  4. 4.0 4.1 "Study: Most Americans suffer from 'Digital Amnesia'". WTOP-FM. July 1, 2015. Cyrchwyd November 11, 2015.
  5. Meyer, Dick (October 12, 2015). "Can't recall phone numbers? Blame 'digital amnesia'". Boston Herald. t. 15.
  6. Olson, Curtis A. (2012-12-01). "Focused search and retrieval: The impact of technology on our brains" (yn en). Journal of Continuing Education in the Health Professions 32 (1): 1–3. doi:10.1002/chp.21117.
  7. Varshney, Lav R. (2012-02-10). "The Google effect in doctoral theses" (yn en). Scientometrics 92 (3): 785–793. doi:10.1007/s11192-012-0654-4.
  8. Dong, Guangheng; Potenza, Marc N. (2015-10-01). "Behavioural and brain responses related to Internet search and memory" (yn en). European Journal of Neuroscience 42 (8): 2546–2554. doi:10.1111/ejn.13039.
  9. Huebner, Bryce (2016-03-01). "Transactive Memory Reconstructed: Rethinking Wegner's Research Program" (yn en). The Southern Journal of Philosophy 54 (1): 48–69. doi:10.1111/sjp.12160.
  10. Huebner, Bryce (2013-12-01). "Socially embedded cognition". Cognitive Systems Research. Socially Extended Cognition 25–26: 13–18. doi:10.1016/j.cogsys.2013.03.006.

Dolenni allanol

golygu