Mae'r effaith cobra yn digwydd pan fydd ymgais i ddatrys problem yn gwaethygu'r broblem,[1] math o ganlyniad anfwriadol. Defnyddir y term i ddangos achosion ysgogiad anghywir yn yr economi ac mewn gwleidyddiaeth.[2]

Effaith cobra
Mathcanlyniadau anfwriadol, cymhelliad gwrthnysig Edit this on Wikidata
Cobra Indiaidd

Tarddodd y term effaith cobra o hanesyn, a osodwyd ar adeg rheolaeth Prydain ar India. Roedd llywodraeth Prydain yn poeni am nifer y nadroedd cobra gwenwynig yn Delhi.[3] Felly cynigiodd y llywodraeth gwobr bownti gyfer pob cobra a laddwyd. I ddechrau, roedd hon yn strategaeth lwyddiannus wrth i nifer fawr o nadroedd gael eu lladd am y wobr. Yn y pen draw, fodd bynnag, dechreuodd pobl fentrus magu'r nadroedd am yr incwm. Pan ddaeth y llywodraeth yn ymwybodol o hyn, rhoddwyd y gorau i'r rhaglen wobrwyo, yn achosi i'r bridwyr cobra ryddhau'r nadroedd di-werth. O ganlyniad, cynyddodd y boblogaeth cobra gwyllt ymhellach.[2][4]

Effeithiau mewn hanes

golygu
  • Llygod mawr yn Fietnam: Roedd digwyddiad tebyg yn Hanoi, Fietnam, o dan reolaeth Ffrainc. Ym 1902, creodd y llywodraeth raglen a dalodd wobr bownti am bob llygoden fawr a laddwyd.[3] I gasglu'r wobr, byddai angen i bobl ddarparu cynffon llygoden fawr wedi'i thorri o'r corff. Fodd bynnag, dechreuodd swyddogion sylwi ar lygod mawr yn Hanoi heb gynffonau. Byddai'r dalwyr llygod mawr o Fietnam yn dal llygod mawr, yn torri eu cynffonau, ac yna'n eu rhyddhau yn ôl i'r carthffosydd er mwyn iddynt allu magu mwy o lygod mawr, a thrwy hynny gynyddu incwm y dalwyr llygod mawr.[5]
  • Yr Ymgyrch Pedwar Pla Tsieineaidd: Ym 1958, lansiodd Mao Zedong yr Ymgyrch Pedwar Pla yn Tsieina i gael gwared ar fosgitos, cnofilod, pryfed, ac adar y to, a oedd yn gyfrifol am drosglwyddo afiechydon. Fe wnaeth y polisi cael gwared a'r adar y to, ond roedd hefyd yn gyfrannwr at y Newyn Tsieineaidd Mawr; arweiniodd absenoldeb adar y to at bla pryfed a cholled fawr o gnydau.
  • Credydau carbon ar gyfer HFC-23: Dechreuodd Panel Rhynglywodraethol y CU ar Newid Hinsawdd gynllun yn 2005 i gwtogi ar nwyon tŷ gwydr. Byddai cwmnïau sy'n cael gwared â nwyon llygrol yn cael eu gwobrwyo â chredydau carbon, a allai yn y pen draw gael eu cyfnewid am arian. Gosododd y rhaglen y prisiau yn ôl pa mor ddifrifol oedd y difrod y gallai’r llygrydd ei wneud i’r amgylchedd, ac un o’r gwobrau uchaf oedd am ddinistrio HFC-23, isgynnyrch oerydd cyffredin. O ganlyniad, dechreuodd cwmnïau gynhyrchu mwy o'r oerydd hwn er mwyn dinistrio mwy o'r nwy isgynnyrch gwastraff, a chasglu miliynau o ddoleri mewn credydau.[6] Yn 2013 roddodd yr Undeb Ewropeaidd y gorau ar gredydau am ddinistrio HFC-23.[7]
  • Cael gwared â moch yn Georgia, UD: Roedd mwyafrif strategaethau rheoli'r mochyn gwyllt wedi arwain at ehangu'r boblogaeth yn ystod y degawdau diwethaf. Roedd moch gwyllt wedi byw yn Fort Benning yn Georgia, UD, ers canol y 1900au. Dechreuodd Fort Benning gynnig gwobr bownti ar foch ym mis Mehefin 2007 i leihau’r boblogaeth ac yn y pen draw cael gwared â'r moch gwyllt o’r gaer. Fodd bynnag, tyfodd poblogaeth y moch, o bosibl oherwydd bwyd a aeth ati i ddenu moch.[8]
  • Tariffiau dur yn yr UD: Yn 2002 gosododd George W Bush tariffiau ar ddur a mewnforiwyd i'r UD er mwyn hybu'r diwydiant dur Americanaidd. Er gwnaeth y diwydiant dur Americanaidd elwa ychydig o'r tariffiau hyn, roedd costau a nifer o swyddi a gollwyd oherwydd cynnydd ym mhrisiau dur yn y wlad llawer gwaeth nag unrhyw fudd.[9]
  • Targedau aros ysbytai: Efallai mai'r effaith cobra i'w weld yn nhargedau aros adrannau damwain ac argyfwng yn ysbytai ym Mhrydain. Mae siawns fod y targed a osodwyd gan y llywodraeth, y bydd pawb yn cael eu trin o fewn pedwar awr, yn achosi mwy o straen ar ysbytai: oherwydd bydd cleifion sydd â chwynion mân, megis sigiad bys, yn disgwyl cael ei weld o fewn pedwar awr, yn achosi i gleifion sydd â chwynion mwy difrifol, megis trawiad ar y galon, i aros yn hirach.[10]
  • Effaith Streisand: Mae'r effaith Streisand yn achos o'r effaith Cobra, lle mae ymgyrch i guddio rhyw ddarn o wybodaeth yn achosi iddo gael mwy o sylw.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Brickman, Leslie H. (2002-11-01). Preparing the 21st Century Church. t. 326. ISBN 978-1-59160-167-8.
  2. 2.0 2.1 Siebert, Horst (2001). Der Kobra-Effekt. Wie man Irrwege der Wirtschaftspolitik vermeidet (yn Almaeneg). Munich: Deutsche Verlags-Anstalt. ISBN 3-421-05562-9.
  3. 3.0 3.1 Dubner, Stephen J. (11 October 2012). "The Cobra Effect: A New Freakonomics Radio Podcast". Freakonomics, LLC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-13. Cyrchwyd 24 February 2015.
  4. Schwarz, Christian A. (1996). NCD Implementation Guide. Carol Stream Church Smart Resources. t. 126. Cited in Brickman, p. 326.
  5. Vann, Michael G. (2003). "Of Rats, Rice, and Race: The Great Hanoi Rat Massacre, an Episode in French Colonial History". French Colonial History 4: 191–203. doi:10.1353/fch.2003.0027.
  6. "The Cobra effect in Freakonomics". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-01.
  7. "Commission adopts ban on the use of industrial gas credits". Climate Action - European Commission (yn Saesneg). European Commission. 23 November 2016. Cyrchwyd 3 November 2019.
  8. "Effectiveness of a bounty program for reducing wild pig densities". Wildlife society.
  9. Francois, Dr. Joseph; Baughman, Laura M. (2003). "The Unintended Consequences of U.S. Steel Import Tariffs:A Quantification of the Impact During 2002". Study prepared for the CITAC Foundation, Trade Partnership Worldwide. http://www.tradepartnership.com/pdf_files/2002jobstudy.pdf.
  10. editor, Denis Campbell Health policy (2019-01-07). "NHS considers scrapping four-hour A&E waiting time targets". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-12-12.CS1 maint: extra text: authors list (link)