Ffosfforws

elfen gemegol gyda'r rhif atomig 15

Elfen gemegol yw ffosfforws a gaiff ei chynrychioli gan y symbol P a'r rhif atomig 15 yn y tabl cyfnodol[1]. Mae'n anfetel ac yn perthyn i'r grŵp nitrogen. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae'r grŵp hwn (sef grŵp 15) yn cynnwys: nitrogen (N) (sy'n anfetel), ffosfforws (P) (anfetel), arsenig (As) (meteloid), antimoni (Sb) (meteloid), bismwth (Bi) (metel tlawd) ac ununpentiwm (Uup) (metel tlawd), mae'n debyg.

Ffosfforws
Element 1: Hydrogen (H), Anfetelau eraill
Element 2: Heliwm (He), Nwyon nobl
Element 3: Lithiwm (Li), Metelau alcalïaidd
Element 4: Beryliwm (Be), Metel daear alcalïaidd
Element 5: Boron (B), Meteloidau
Element 6: Carbon (C), Anfetelau eraill
Element 7: Nitrogen (N), Anfetelau eraill
Element 8: Ocsigen (O), Anfetelau eraill
Element 9: Fflworin (F), Halogenau
Element 10: Neon (Ne), Nwyon nobl
Element 11: Sodiwm (Na), Metelau alcalïaidd
Element 12: Magnesiwm (Mg), Metel daear alcalïaidd
Element 13: Alwminiwm (Al), Metelau eraill
Element 14: Silicon (Si), Meteloidau
Element 15: Ffosfforws (P), Anfetelau eraill
Element 16: Swlffwr (S), Anfetelau eraill
Element 17: Clorin (Cl), Halogenau
Element 18: Argon (Ar), Nwyon nobl
Element 19: Potasiwm (K), Metelau alcalïaidd
Element 20: Calsiwm (Ca), Metel daear alcalïaidd
Element 21: Scandiwm (Sc), Elfennau trosiannol
Element 22: Titaniwm (Ti), Elfennau trosiannol
Element 23: Fanadiwm (V), Elfennau trosiannol
Element 24: Cromiwm (Cr), Elfennau trosiannol
Element 25: Manganîs (Mn), Elfennau trosiannol
Element 26: Haearn (Fe), Elfennau trosiannol
Element 27: Cobalt (Co), Elfennau trosiannol
Element 28: Nicel (Ni), Elfennau trosiannol
Element 29: Copr (Cu), Elfennau trosiannol
Element 30: Sinc (Zn), Elfennau trosiannol
Element 31: Galiwm (Ga), Metelau eraill
Element 32: Germaniwm (Ge), Meteloidau
Element 33: Arsenig (As), Meteloidau
Element 34: Seleniwm (Se), Anfetelau eraill
Element 35: Bromin (Br), Halogenau
Element 36: Crypton (Kr), Nwyon nobl
Element 37: Rwbidiwm (Rb), Metelau alcalïaidd
Element 38: Strontiwm (Sr), Metel daear alcalïaidd
Element 39: Ytriwm (Y), Elfennau trosiannol
Element 40: Sirconiwm (Zr), Elfennau trosiannol
Element 41: Niobiwm (Nb), Elfennau trosiannol
Element 42: Molybdenwm (Mo), Elfennau trosiannol
Element 43: Technetiwm (Tc), Elfennau trosiannol
Element 44: Rwtheniwm (Ru), Elfennau trosiannol
Element 45: Rhodiwm (Rh), Elfennau trosiannol
Element 46: Paladiwm (Pd), Elfennau trosiannol
Element 47: Arian (Ag), Elfennau trosiannol
Element 48: Cadmiwm (Cd), Elfennau trosiannol
Element 49: Indiwm (In), Metelau eraill
Element 50: Tun (Sn), Metelau eraill
Element 51: Antimoni (Sb), Meteloidau
Element 52: Telwriwm (Te), Meteloidau
Element 53: Ïodin (I), Halogenau
Element 54: Senon (Xe), Nwyon nobl
Element 55: Cesiwm (Cs), Metelau alcalïaidd
Element 56: Bariwm (Ba), Metel daear alcalïaidd
Element 57: Lanthanwm (La), Lanthanidau
Element 58: Ceriwm (Ce), Lanthanidau
Element 59: Praseodymiwm (Pr), Lanthanidau
Element 60: Neodymiwm (Nd), Lanthanidau
Element 61: Promethiwm (Pm), Lanthanidau
Element 62: Samariwm (Sm), Lanthanidau
Element 63: Ewropiwm (Eu), Lanthanidau
Element 64: Gadoliniwm (Gd), Lanthanidau
Element 65: Terbiwm (Tb), Lanthanidau
Element 66: Dysprosiwm (Dy), Lanthanidau
Element 67: Holmiwm (Ho), Lanthanidau
Element 68: Erbiwm (Er), Lanthanidau
Element 69: Thwliwm (Tm), Lanthanidau
Element 70: Yterbiwm (Yb), Lanthanidau
Element 71: Lwtetiwm (Lu), Lanthanidau
Element 72: Haffniwm (Hf), Elfennau trosiannol
Element 73: Tantalwm (Ta), Elfennau trosiannol
Element 74: Twngsten (W), Elfennau trosiannol
Element 75: Rheniwm (Re), Elfennau trosiannol
Element 76: Osmiwm (Os), Elfennau trosiannol
Element 77: Iridiwm (Ir), Elfennau trosiannol
Element 78: Platinwm (Pt), Elfennau trosiannol
Element 79: Aur (Au), Elfennau trosiannol
Element 80: Mercwri (Hg), Elfennau trosiannol
Element 81: Thaliwm (Tl), Metelau eraill
Element 82: Plwm (Pb), Metelau eraill
Element 83: Bismwth (Bi), Metelau eraill
Element 84: Poloniwm (Po), Meteloidau
Element 85: Astatin (At), Halogenau
Element 86: Radon (Rn), Nwyon nobl
Element 87: Ffranciwm (Fr), Metelau alcalïaidd
Element 88: Radiwm (Ra), Metel daear alcalïaidd
Element 89: Actiniwm (Ac), Actinidau
Element 90: Thoriwm (Th), Actinidau
Element 91: Protactiniwm (Pa), Actinidau
Element 92: Wraniwm (U), Actinidau
Element 93: Neptwniwm (Np), Actinidau
Element 94: Plwtoniwm (Pu), Actinidau
Element 95: Americiwm (Am), Actinidau
Element 96: Curiwm (Cm), Actinidau
Element 97: Berkeliwm (Bk), Actinidau
Element 98: Califforniwm (Cf), Actinidau
Element 99: Einsteiniwm (Es), Actinidau
Element 100: Ffermiwm (Fm), Actinidau
Element 101: Mendelefiwm (Md), Actinidau
Element 102: Nobeliwm (No), Actinidau
Element 103: Lawrenciwm (Lr), Actinidau
Element 104: Rutherfordiwm (Rf), Elfennau trosiannol
Element 105: Dubniwm (Db), Elfennau trosiannol
Element 106: Seaborgiwm (Sg), Elfennau trosiannol
Element 107: Bohriwm (Bh), Elfennau trosiannol
Element 108: Hassiwm (Hs), Elfennau trosiannol
Element 109: Meitneriwm (Mt)
Element 110: Darmstadtiwm (Ds)
Element 111: Roentgeniwm (Rg)
Element 112: Coperniciwm (Cn), Elfennau trosiannol
Element 113: Nihoniwm (Nh)
Element 114: Fflerofiwm (Fl)
Element 115: Moscofiwm (Mc)
Element 116: Lifermoriwm (Lv)
Element 117: Tenesin (Ts)
Element 118: Oganeson (Og)
Ffosfforws
Ffosfforws mewn cynhwysydd
Symbol P
Rhif 15
Dwysedd (gwyn) 1.823 g/cm³
(coch) 2.34 g/cm³
(du) 2.69 g/cm³
Ffosfforws
Enghraifft o'r canlynolelfen gemegol Edit this on Wikidata
Mathpolyatomic nonmetals, Anfetel Edit this on Wikidata
Màs30.973761998 ±5e-09 uned Dalton Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1669 Edit this on Wikidata
SymbolEdit this on Wikidata
Rhif atomig15 Edit this on Wikidata
Trefn yr electronnau1s² 2s² 2p⁶ 3s² 3p³, [Ne] 3s² 3p³ Edit this on Wikidata
Electronegatifedd2.19 Edit this on Wikidata
Cyflwr ocsidiad2.19 Edit this on Wikidata
Rhan oElfen cyfnod 3, Elfen Grŵp 15 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'n elfen gyffredin iawn ar y Ddaear a gellir ei ganfod mewn creigiau ffosffad, ond oherwydd ei fod yn adweithio'n sydyn, nid yw i'w ganfod yn rhydd mewn natur. Ffosfforws gwyn a gafodd ei darganfod yn gyntaf a hynny yn 1669 gan yr alcemydd Almaenig Hennig Brand.

Caiff ei defnyddio'n helaeth i wneud cynnyrch megis dur[1], gwydr arbennig [1], ceramig safon uchel[1], ffrwydron, asiantau nerfol (nerve agents), matsis (ffrithiant a "diogel"), tân gwyllt ac (fel ffosffad) mewn gwrtaith diwydiannol[1], past dannedd, a sebonau golchi[1].

Darganfyddiad golygu

Cydnabyddir yr alcemydd Ellmynig Hennig Brand o ddarganfod ffosfforws yn 1669. Wrth geisio am yr eurfaen (philosopher's stone) trwy ferwi litrau lawer o wrin (troeth) pydredig cynhyrchodd past tebyg i gwyr a oedd yn goleuo yn y tywyllwch. Yn fanwl roedd wedi cynhyrchu ffosffad amoniwm sodiwm hydrogen. Gwerthodd ei gyfrinach i D Krafft o Ddresden am 200 thaler. Teithiodd Krafft Ewrop yn ei arddangos. Un o'r rhai a'i gwelodd oedd Robert Boyle. Dyfalodd hwnnw sut i wella'r broses, ac erbyn 1680 roedd wedi defnyddio ffosfforws ar gyfer math cyntefig o fatsen[2]. (Heddiw fósforo (eg) yw'r gair Sbaeneg[3] a Phortiwgaleg am fatsien.)

Oherwydd ei natur dra adweithiol, ar ffurf wedi'i glymu ag ocsigen (wedi'i ocsideiddio) y mae ffosfforws yn bodoli mewn natur (gan cynnwys wrin) bron yn ddieithriad. Gelwir hwn yn ffosffad (PO43-; yn ei ffurf wedi'i llwyr ïoneiddio). (Pan nad yw wedi ïoneiddio, ffurfia asid ffosfforig (H3PO4).)

Ffynonellau diwydiannol ffosfforws golygu

Ers yr 1890au mwyngloddio creigiau ffosffad anorganig bu brif ffynhonnell yr elfen. Ar ffurf (amhur) ffosffad calsiwm (apatit) y mae'r rhan fwyaf ohono. Fe'i ffurfiwyd o waddodion morol dros filiynau o flynyddoedd cyn dod i'r wyneb drwy symudiadau tectonig y ddaear. Yn yr Unol Daleithiau cychwynnodd y diwydiant, ond mae bellach cyflenwadau sylweddol ohono yn Tsieina a Rwsia. Ond o bwys yn yr hinsawdd geo-wleidyddol bresennol yw bod tua hanner cyflenwad y byd i'w canfod mewn gwledydd arabaidd[4] , yn bennaf Moroco, lle mae dros 70% ar hyn o bryd.

Ffosfforws mewn pethau byw golygu

 
Fframwaith hydrocsiapatit (calsiwm ffosffad) mewn asgwrn. (Normal ar y chwith, Treuliwyd ar y dde)

Mae'r elfen ffosfforws yn bresennol ym mhopeth byw at y ddaear ac nid oes modd cynnal bywyd hebddo. Mae'n chwarae rôl hollbwysig ym mhrosesau biocemeg rheoli ac egnio bywyd. Mae'n debyg iddo chwarae rhan holl bwysig wrth i fywyd ffurfio (abiogenesis) tua phedwar biliwn (mil miliwn) o flynyddoedd yn ôl. Datgelir hyn heddiw yn ei rôl greiddiol mewn asidau niwclëig (DNA ac RNA) a'r ffosffolipidau sy'n ffurfio pilen pob cell - ddwy gydran hanfodol i fywyd. Mae'n rhan hollbwysig a gweithredol o'r moleciwl ATP sy'n ganolog i gyfundrefn egni bywyd at y ddaear. Mae'n debygol fod adweithiau’r moleciwl hwn (sef ATP) a'u gwreiddiau yn y byd abiotig[5].

Halwynau ffosffad calsiwm yw cyfansoddiad "caled" esgyrn a dannedd[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Royal Society of Chemistry (Safle Periodic Table). Phosphorus http://www.rsc.org/periodic-table/element/15/phosphorus
  2. (Saesneg) Peter Baccini; Paul H. Brunner. Metabolism of the Anthroposphere. MIT Press, 2012. tud. 288. ISBN 0262300540.
  3. Diccionario Español Inglés, Peers EA et al, (gol 1976) Cassell Llundain
  4. (Saesneg) http://minerals.usgs.gov/minerals/pubs/commodity/phosphate_rock/ Darllennwyd 17 Ebrill 2017.
  5. (Saesneg) Keller, Markus A.; Turchyn, Alexandra V.; Ralser, Markus (25 Mawrth 2014). "Non‐enzymatic glycolysis and pentose phosphate pathway‐like reactions in a plausible Archean ocean". Molecular Systems Biology (Heidelberg, Germany: EMBO Press ar ran yr European Molecular Biology Organization) 10 (725). doi:10.1002/msb.20145228. ISSN 1744-4292. PMC 4023395. PMID 24771084. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4023395.
  6. (Saesneg) Sidney Omelon, Marianne Ariganello, Ermanno Bonucci, Marc Grynpas, and Antonio Nanci. (2013) A Review of Phosphate Mineral Nucleation in Biology and Geobiology. Calcif Tissue Int. 93, 382–396. doi: 10.1007/s00223-013-9784-9 PMCID: PMC3824353 https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3824353/ (Hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ffosffad geogemegol.)