Egerton Phillimore

ysgolhaig

Roedd Egerton Grenville Bagot Phillimore (20 Rhagfyr 18565 Mehefin 1937) yn Sais oedd yn ymddiddori yn hynafiaethau, llenyddiaeth, iaith a hanes Cymru.[1]

Egerton Phillimore
Ganwyd20 Rhagfyr 1856 Edit this on Wikidata
Belgravia Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mehefin 1937, 3 Mehefin 1937 Edit this on Wikidata
Corris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethgolygydd Edit this on Wikidata
TadJohn George Phillimore Edit this on Wikidata
MamRosalind Margaret Knight-Bruce Edit this on Wikidata
Priod(1) Susan Eliza Roscow (2) Marion Owen
Plantmerch anhysbys Phillimore, merch anhysbys Phillimore, John George Phillimore, Rosalind Margaret Phillimore Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Phillimore yn 21 Chester Square, Belgravia, Llundain, ar 20 Rhagfyr 1856, yn unig fab i John George Phillimore QC a Rosalind Margaret, (née Knight-Bruce). Yn amddifad wedi marwolaeth ei fam ym 1871, cymerwyd ef i ofal ei ewythr Syr Robert Joseph Phillimore. Aeth i Ysgol Westminster yn Llundain. Enillodd gradd BA o Eglwys Crist, Rhydychen ym 1879 ac MA ym 1883. Galwyd ef i'r bar yn y Deml Ganol ym 1877.

Tra yn Rhydychen, cyfarfu Phillimore â John Rhŷs, Whitley Stokes ac eraill a ysgogodd ei ddiddordeb yn niwylliant Cymru. Dysgodd yr iaith a chasglodd lyfrau a llawysgrifau Cymraeg. Datblygodd Phillimore ei ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg gan gynhyrchu erthyglau ar gyfer Bye-gones, Archaeologia Cambrensis a'r Cymmrodor, y cyfeirir atynt yn eang fel rhai sy'n darparu arweiniad ar ystyron geiriau ac enwau. Bu'n olygydd y Cymmrodor o 1886 i 1891.[2] O 1903 roedd yn byw yng Nghorris. Ysgrifennodd erthygl ar eiriau Cymraeg anniwair ar gyfer cyfnodolyn Almaeneg, Kryptadia, a gyhoeddwyd ym 1884. Mae papurau Phillimore, gan gynnwys rhywfaint o farddoniaeth o'i gyfansoddiad ei hun ynghyd â chyfieithiadau o weithiau yn y Gymraeg, Lladin, Ffrangeg, Almaeneg a Groeg, yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.[3]

Bu Phillimore yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd i Susan Elsie Roscow ym 1880 bu iddynt un mab a thair merch. Bu farw Susan Roscow ym 1893, ac wedi hynny priododd Phillimore â Marion Owen ym 1897.

Cyfeiriadau

golygu