Rhisiart Gwyn

merthyr Catholig a bardd

Bardd a reciwsant o Lanidloes, Powys, oedd Rhisiart Gwyn, neu Richard Gwyn neu Richard White (tua 153717 Hydref 1584).

Rhisiart Gwyn
Ganwyd1 Ionawr 1537, 1537 Edit this on Wikidata
Llanidloes Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 1584 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Man preswylOwrtyn, Powys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl17 Hydref Edit this on Wikidata

Yn fab i deulu cefnog o ardal Maldwyn, cafodd ei addysg yng ngholegau Caergrawnt a Rhydychen a bu yn ysgolfeistr yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd yn Babydd a wrthodai gydnabod hawl Elisabeth I i deyrnasu, ac o ganlyniad cafodd ei erlid.

Cyfansoddodd Rhisiart Gwyn gyfres o gerddi mesur rhydd (carolau) yn Gymraeg, sy'n ymosod yn llym ar Brotestaniaeth.

Yng Ngorffennaf 1580 carcharwyd ef ac mewn carchar y bu am weddill eu oes. Ar 9 Hydref 1584 dedfrydwyd ef i'w ddienyddio trwy ei grogi, diberfeddu a'i chwarteru.

Canoneiddwyd ef gan y Pab Pawl VI ar 25 Hydref 1970 fel un o Ddeugain Merthyr Cymru a Lloegr.

Mae egwlys Gatholig Llanidloes, Eglwys Ein Harglwyddes a Sant Rhisiart Gwyn, wedi'i chysegru i Rhisiart Gwyn ynghyd â'r Forwyn Fair.

Llyfryddiaeth golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.