Eglwys Llangwyfan
eglwys yn Llangwyfan, Ynys Môn
Eglwys ar Ynys Cribinau, ger Aberffraw, Ynys Môn, yw Eglwys Llangwyfan. Adeiladwyd yr eglwys yn y 12g, yn gysegredig i Sant Cwyfan, a sefydlodd fynachdy yn Glendalough, Iwerddon.
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberffraw |
Sir | cymuned Aberffraw |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 3.8 metr |
Cyfesurynnau | 53.1855°N 4.49189°W |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth ganoloesol |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cysegrwyd i | Cwyfan |
Manylion | |
Yn wreiddiol, roedd yr ynys yn benrhyn rhwng Porth Cwyfan a Phorth China, ond crewyd ynys gan y môr yn ystod yr 17g. Adeiladwyd tŷ, Plas Llangwyfan ar gyfer gwasanaethau pan oedd hi'n amhosibl cyrraedd yr ynys. Adeiladwyd wal o'i chwmpas ym 1893 gan Harold Hughes, pensaer lleol i’w hamddiffyn rhag y môr. Ailadeiladwyd waliau’r eglwys yn yr 14g.[1]
Gweler hefyd
golygu- Llangwyfan, Ynys Môn: Pentrefan yng nghymuned Aberffraw