Ynys Cribinau

ynys lanwol yng Nghymru

Mae Ynys Cribinau yn ynys fechan oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, tua milltir a hanner o Aberffraw yng nghwmwd Malltraeth. Gellir croesi i'r ynys ar droed pan fo'r llanw'n isel.

Ynys Cribinau
Mathynys lanwol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawBae Caernarfon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.185°N 4.493°W Edit this on Wikidata
Map

Yr unig adeilad ar yr ynys yw Eglwys Llangwyfan, sydd wedi ei cysegru i Sant Cwyfan. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 13g. "Yr eglwys yn y môr" yw'r enw lleol arni. Cynhelir gwasanaethau ynddi ac mae'n eglwys boblogaidd ar gyfer priodasau.

Mae mapiau o'r 17g yn dangos yr eglwys wedi'i chysylltu â'r tir mawr ond er hynny mae'r clogwyni clae wedi'u erydu gan y môr gan adael yr eglwys ar ei hynys. Mae mur amddiffynnol o gwmpas yr eglwys i'w hamddiffyn rhag y tonnau.

Eglwys Gwyfan ar Ynys Cribinau

Gweler hefyd golygu