Eglwys Sant Crwst
Yn Llanrwst, Sir Conwy, mae Eglwys Sant Grwst[1] neu Eglwys Grwst Sant. Cedwir rhai o greiriau'r Tywysogion Cymreig yma, gan gynnwys Llywelyn Fawr. Cysegrwyd yr eglwys i sant Grwst (weithiau 'Crwst'); ni wyddys lawer amdano ond ei fod yn sant lleol. Mae'r eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I. Oherwydd yr amryfusedd ynglŷn ag enw'r sant, ceir cyfeiriadau at yr eglwys wrth yr enw Eglwys Sant Crwst hefyd.
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanrwst |
Sir | Llanrwst |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9.1 metr |
Cyfesurynnau | 53.1381°N 3.79915°W |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig Seisnig |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Cysegrwyd i | Saint Grwst |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llanelwy |
Hanes
golyguCodwyd eglwys ar y safle presennol yn 1170. Eglwys o gerrig gyda tho gwellt oedd honno, ond yn ôl traddodiad roedd eglwys gynharach ar safle a elwir hyd heddiw yn 'Cae Llan'. Llosgwyd eglwys 1170 i'r llawr yn 1468. Codwyd yr eglwys bresennol yn 1470, ond erbyn heddiw dim ond rhannau o'r adeilad hwnnw sy'n sefyll; mae'r tŵr a'r ystlys ogleddol yn perthyn i'r 19g.[2]
Ychwanegwyd Capel Gwydir yn 1633–34 gan Richard Wynn o Wydir. Ynddo ceir arch carreg Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd a Gogledd Cymru. Daeth yno o safle Abaty Maenan a chyn hynny roedd yn gorwedd yn hen Abaty Aberconwy (Conwy).
Oriel
golygu-
Beddrod Hywel Coetmor
-
Arch Llywelyn Fawr
-
Y capel o'r eglwys
-
Ffenest liw yn yr eglwys