Eglwys y Santes Non, Llydaw
Saif Chapel santez Nonn (Cymraeg: Eglwys y Santes Non), ym mhentref Dirinonn, Penn-ar-Bed, Llydaw. Cysegrwyd yr eglwys i Dewi Sant (Llydaweg: Divy) a'i fam Non. Cychwynwyd adeiladu'r eglwys bresennol yn 1588. Ceir ystafell (neu 'gyntedd') llawn o gerfluniau'r Deuddeg Apostol, sy'n dyddio i 1618. Ceir llawer o wrthrychau crefyddol hynafol yn yr eglwys a'i hadeiladau, a'r rheiny o safon uchel, ac wedi'u cadw'n dda.
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dirinonn |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.3978°N 4.26861°W |
Statws treftadaeth | monument historique classé |
Manylion | |
Esgobaeth | Roman Catholic Diocese of Quimper-Léon |
Ar wahân i'r brif egwlys ceir capel, Calfaria carreg ac esgyrndy.
Credir mai tardiadd enw'r plwyf yw naill ai cywasgiad o'r enw Dewi a Non neu'r gair am goed derw sef 'deri Non'[1].
Y capel
golyguDefnyddir y capel heddiw fel amgueddfa i'r creiriau hynafol.
Codwyd y capel yn 1577 yn lle adeilad cynharach. Cadwyd sarcoffagws garreg Non, fodd bynnag, yn yr union le a chredir mai Atelier du Folgoët fu'n gyfrifol am ei addurno, yn 1450. Mae'r capel yn siap petrual gyda chlochdy bychan a thŵr ar ei ben. Mae'r gisant (cerflun o'r person) yn dynodi y santes yn gorwedd ar ei hyd, gyda llyfr yn ei dwylo. Gorffwysa'i phen ar ddraig, sy'n ein hatgoffa o chwedl iddi ladd draig ddrwg ac iddi darddu o Gymru. Mae gan y feddrod hon chwe phanel, gyda cherfweddau (reliefs) o'r deuddeg apostol ac arfbeisiau'r teuluoedd hynny a gododd arian i dalu am y feddrod a'r capel cynharach, yn enwedig Simon de Kerbringal. Yn ystod y Chwyldro Ffrengig anrheithiwyd yr arfbeisiau gan y werin, drwy eu cerfio a'u tocio gyda chynion neu gerrig.
-
Map yn dangos lleoliad y pentref a'r eglwys
-
Capel Non, gyda'i gerfluniau hynafol
-
Cerflun o Santes Non yn Dirinonn
-
Beddrod Non yn Eglwys y plwyf, Dirinonn
-
Ffenestr liw yn dangos Non yn cyrraedd Llydaw, o Gymru
-
Y ffenest liw llawn
Ceir yma hefyd gerflun o Santes Non, ar du allan un o'r waliau ger y brif fynedfa a cherfluniau eraill i Santes Ann, Santes Catrin, Santes Fiacre a Dewi Sant ei hun. Darluniwyd Non a Dewi hefyd mewn ffenestr liw cywrain.
Eglwysi a llefydd a enwyd ar ôl Non
golyguRhestr Wicidata:
Gweler hefyd
golygu- Buhez Santez Nonn, y ddrama firagl mewn Llydaweg
Darllen pellach
golygu- Emmanuelle LeSeac'h, Sculpteurs sur pierre en Basse-Bretagne: Les ateliers du XVe au XVIIe siècle (Presses Universitaires de Rennes, 2014)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ L'origine du nom de notre commune "Dirinon"http://www.dirinon.fr/l-origine-du-nom-de-la-commune-de-dirinon.htm Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback