Agor y brif ddewislen

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Baschurch (Cymraeg: Eglwysau Basa).[1] Fe'i leolir tua 8 milltir i'r gogledd o'r Amwythig.

Baschurch
Baschurch Church front.jpg
Math Pentref, Plwyf sifil Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Swydd Amwythig
(Awdurdod Unedol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau 52.7925°N 2.8541°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04011215 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ4259321413 Edit this on Wikidata
Cod post SY4 Edit this on Wikidata

HanesGolygu

Cyfeirir at Baschurch dan ei hen enw Cymraeg, "Eglwysau Basa", ym mhennillion 45–51 o Canu Heledd, cyfres o englynion sy'n dyddio o'r 9g neu'r 10g.

eglwysseu bassa y orffowys heno,
y diwed ymgynnwys;
cledyr kat, callon argoetwis.

eglwysseu bassa ynt ffaeth heno.
vyn tauawt a'e gwnaeth.
rud ynt wy, rwy vy hiraeth.

eglwysseu bassa ynt yng heno
y etiued kyndrwyn[yn],
tir mablan kyndylan wynn.

eglwysseu bassa ynt tirion heno,
ys gwnaeth eu meillyon.
rud ynt wy; rwy vyng callon.

eglwysseu bassa collassant eu breint,
gwedy y[r] diua o loegyrwys
kyndylan ac eluan powys.

eglwysseu bassa ynt diua heno;
y chetwyr ny phara.
gwyr a wyr a mi yma.

eglwysseu bassa ynt baruar heno
a minneu wyf dyar.
rud ynt wy, rwy vyg galar.

Rhestrir y pentref fel Bascherche yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[2]

GefeilldrefGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Geiriadur yr Academi, Baschurch.
  2. Baschurch, Open Domesday; adalwyd 7 Mawrth 2018

Gweler hefydGolygu