Egni llanw

technoleg i drosglwyddo ynni o lanw y môr neu foryd yn egni drydanolneu arall

Math o Egni hydro yw egni llanw sy'n ffynhonnell egni adnewyddadwy ac sy'n defnyddio egni o donnau'r môr i gynhyrchu egni trydanol.

Egni llanw
Enghraifft o'r canlynolffynhonnell ynni Edit this on Wikidata
Mathmaint corfforol, ynni adnewyddadwy Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1966 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gorsaf egni llanw Llyn Sihwa yn nhalaith Gyeonggi yn Ne Corea sy'n cynhyrchu 254 MW

Mae tonnau a llanw a thrai'n fwy dibynadwy, yn fwy cyson na'r gwynt o safbwynt cynhyrchu trydan. Ceir dau brif fath: gorsaf bwer llif y dŵr a morlynnoedd.

Gorsaf bwer llif y dŵr golygu

 
SeaGen - twrbein llif y dŵr masnachol cynta'r byd, a leolir yn Strangford Lough, Gogledd Iwerddon.

Mae gorsaf bwer llif y dŵr (dynamic tidal power) yn dibynnu ar symudiad y dŵr wrth iddo ddod i mewn neu fynd allan gan droi breichiau melin tebyg i felin wynt ar ben i lawr. Ond yn wahanol i egni'r gwynt, neu gelloedd solar, mae'n dibynnu ar system lloer-daear: y lloer yn atynnu'r eigion ato, ddwywaith y dydd.

Morlynnoedd golygu

Morglawdd enfawr o garreg, fel arfer, sy'n cynnal dŵr y llanw a'i ollwng drwy dwrbein yw morlyn ee Morlyn Llanw Abertawe. Gweithia ar ei orau pan fo lefel y penllanw a lefel y trai ar ei eithaf yn fawr. Ym Morlyn Llanw Abertawe, mae'r gwahaniaeth hwn yn 10.5m metr ar ei uchaf. Bydd y morlyn yn cael y gallu i gynhyrchu 320 MW o bŵer.[1]

Hanes golygu

Defnyddiwyd melinau llanw a thrai ers cyn yr Oesoedd Canol i droi offer mecanyddol er enghraiff maen melin i falu blawd. Adeiladwyd Melin Lanw Caeriw yn 1801 ond fe'i codwyd ar hen gaer o Oes Haearn a chrerir y pwll gan argae ar draws Afon Caeriw, drwy gau'r llifddorau pan fo'r llanw yn ei anterth (ar ei uchaf). O dan y felin ei hun ceir dau lif-ddôr er mwyn gollwng y dŵr pan fo'r môr ar drai. Wrth i'r dŵr basio'r llifddorau hyn mae'n troi dwy olwyn ddŵr enfawr a hyn, yn ei dro'n troi olwynion cocos ac yn malu'r ŷd. Dyma'r unig felin lanw o'i bath yng Nghymru. Caewyd drysau'r felin yn 1937 ond yn 1972 dechreuwyd ei hadfer gan ei hagor fel arddangosfa ac oddi wefn ceir amgueddfa.

Yn 1966, roedd gorsaf pŵer llanw cyntaf y byd, sef Stankell vordredan ar Renk (Ffrangeg: Usine marémotrice de la Rance) yn Llydaw, wedi dechrau cynhyrchu trydan a gall gynhyrchu uchafswm o 240 MW[2]. Agorodd y 'Sihwa Lake Tidal Power Station' yn Ne Corea yn 2011, ac ar hyn o bryd yw'r orsaf pŵer llanw mwyaf y byd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Key Statistics".
  2. "La Rance Tidal Power Plant" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-01-18.