Eifion Roberts
Barnwr a gwleidydd gyda'r Blaid Ryddfrydol oedd ei Anrhydedd Hugh Eifion Pritchard Roberts a adnabyddir fel Eifion Roberts (22 Tachwedd 1927 – 15 Medi 2019).
Eifion Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 22 Tachwedd 1927 |
Bu farw | 15 Medi 2019 Ysbyty Maelor Wrecsam |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Cefndir
golyguRoedd yn fab hynaf i'r Parch a Mrs EP Roberts o Ynys Môn. Ei frawd iau oedd y gwleidydd Ceidwadol Wyn Roberts. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Biwmaris a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle derbyniodd LLB gydag anrhydedd. Torrwyd ar draws ei astudiaethau pan aeth i wasanaethu fel Swyddog Hedfan yng nghangen addysg y Llu Awyr Brenhinol.[1] Dychwelodd i'w astudiaethau yng Ngholeg Exeter, Rhydychen lle cafodd BCL.[2] Ym 1951 ymyrrodd eto â'i astudiaethau, y tro hwn i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer Adran Dinbych yn Etholiad Cyffredinol 1951. Heb gael cyfle i feithrin yr etholaeth, ni lwyddodd i atal y Rhyddfrydwyr rhag cwympo i'r trydydd safle;
Ni safodd dros y senedd eto.
Gyrfa broffesiynol
golyguYn 1953 derbyniodd alwad i'r Bar yn Gray's Inn. Bu'n ymarfer fel Cwnsler Iau ar Gylchdaith Cymru a Chaer rhwng Medi 1953 ac Ebrill 1971. Roedd yn Ddirprwy Gadeirydd Sesiwn Chwarter Ynys Môn o 1966–71 a Chwarter-Sesiwn Sir Ddinbych rhwng 1970–71. Yn 1971 fe'i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines. Roedd yn Gofiadur yn Llys y Goron rhwng 1972-77. Roedd yn Gomisiynydd Ffiniau Seneddol Cynorthwyol Cymru ac yn Aelod dros Gymru Pwyllgor Crawford ar Darlledu. Yn 1977 fe'i penodwyd yn Farnwr Cylchdaith. Ymddeolodd ym 1998.[2]
Bywyd personol
golyguPriododd, ym 1958, â Buddug Williams. Roedd ganddyn nhw ddwy ferch, Siân a Rhian a mab, Huw Eifion Roberts, sydd bellach yn farnwr rhanbarth yn Wrecsam. Yn 2009 fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Bangor.[2] Bu farw ar 15 Medi 2019 yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Cynhaliwyd ei angladd ym Mhentraeth ar 30 Medi 2019 ac fe'i claddwyd ym Mynwent Menai, Porthaethwy.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Times House of Commons, 1951
- ↑ 2.0 2.1 2.2 ‘ROBERTS, His Honour (Hugh) Eifion (Pritchard)’, Who's Who 2014, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 2014; online edn, Oxford University Press, Rhagfyr 2013 ; rhifyn arlein, Rhagfyr 2013 cyrchwyd 5 Chwefror 2014
- ↑ "Teyrnged teulu i'r cyn-farnwr Eifion Roberts". 2019-09-29. Cyrchwyd 2019-09-29.