Ysgol David Hughes, Porthaethwy

Ysgol David Hughes yw ysgol uwchradd fwyaf Ynys Môn. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref Porthaethwy, ar lannau'r Fenai.

Ysgol David Hughes
Ysgol David Hughes
Arwyddair Albam Exorna
Sefydlwyd 1603
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog,2B
Pennaeth Mr Emyr Williams
Dirprwy Bennaethiaid Mrs Nicola Hughes
Miss Rachel Pursglove
Sylfaenydd David Hughes
Lleoliad Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Cymru, LL59–5SS
Disgyblion 1000+
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Tudur, Llywelyn, Seiriol, Cybi
Lliwiau Du, gwyn a phiws

Hanes golygu

Sefydlwyd yr ysgol ym 1603, yn wreiddiol fel Ysgol Ramadeg Rydd ym Miwmares. Erbyn 1963, gyda Chyngor Sir Fôn yr arwain y ffordd gydag ail-drefnu addysg uwchradd i'r patrwm cyfun, symudodd yr ysgol i Borthaethwy fel ysgol gyfun i fechgyn a merched.

David Hughes golygu

David Hughes oedd sefydlydd ysgol ramadeg rydd Biwmares (neu'r Free Grammar School). Fe'i ganed yn 1561 neu 1536, ym mhlwyf Llantrisant a bu farw yn 1609. Mynychodd Rhydychen. Ymsefydlodd yn Norfolk a phenodwyd ef yn stiward maenor Woodrising tua 1596. Sefydlodd yr ysgol ym Miwmares yn 1602. Yn ei ewyllys dyddiedig 30 Medi 1609 , gwaddolodd yr ysgol a gwnaeth ddarpariaeth hefyd i sefydlu elusendy yn Llanerch-y-medd ond ym Miwmares y codwyd yr elusendy.

Ysgolion Dalgylch golygu

Gwasanaetha'r ysgol gymunedau glannau'r Fenai a thu hwnt. Ceir deg ysgol gynradd yn nhalgylch yr ysgol:

Cyfleusterau golygu

Mae pum bloc yn yr ysgol: A-D a'r Bloc Newydd. Yn 2006, agorwyd 'Canolfan Hamdden David Hughes' y tu cefn i'r ysgol, sy'n cael ei defnyddio gan yr ysgol a'r cyhoedd.

Cymreictod yr ysgol golygu

Caiff Ysgol David Hughes ei diffinio gan Lywodraeth Cymru fel 'Ysgol Uwchradd Ddwyieithog: Cateogri 2B'. Golyga hyn bod modd astudio 80% neu fwy o'r pynciau a gynnigir (ac eithrio'r Gymraeg a'r Saesneg) drwy gyfrwng y Gymraeg, ond addysgir yr holl bynciau yn Saesneg hefyd. Mewn ysgolion o'r fath y 'cyd-destun ieithyddol fydd yn pennu iaith neu ieithoedd yr ysgol o ddydd i ddydd', yn ôl y Llywodraeth.[1]

Daw 33% o'r disgyblion o gartrefi Cymraeg ei hiaith, yn ôl Estyn.[2]

Noda Polisi Iaith yr ysgol: 'Defnyddir yr iaith Gymraeg i gyfathrebu â disgyblion ac athrawon lle bo hynny’n addas a naturiol. Anfonir pob gwybodaeth ysgrifenedig gan y Pennaeth i’r staff ac i’r rhieni yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Cynhelir pob gwasanaeth boreol ar gyfer y gwahanol grwpiau blwyddyn yn ddwyieithog. Gofynnir i’r staff a’r disgyblion sicrhau bod pob rhybudd, poster, arwydd a dogfen swyddogol yn ddwyieithog.' [3]

Dosbarthiadau golygu

Mae 5 dosbarth i gyd sy'n sillafu 'Menai'.

Gwobr Goffa Dafydd Whitthall golygu

Ers 2011, rhoddir 'Gwobr Goffa Dafydd Whitthall' yn flynyddol i ddisgybl o'r Chweched Dosbarth am ei gyfraniad/chyfraniad at Gymreictod yr ysgol, er cof am y cyn-brifathro.

Enillwyr:

  • 2011: Lowri Jones
  • 2012: Steffan Bryn Jones
  • 2013: Huw Harvey

Y Chweched Dosbarth golygu

Mae gan yr ysgol chweched dosbarth ag ynddo nifer uchel o ddisgyblion. Mae gwisg ysgol benodol ar gyfer disgyblion y chweched a phenodir prif ddisgyblion. Gwisg y chweched yw tei piws gyda streipiau du, crys gwyn a siwmper du sydd gyda logo yr ysgol.

Addysgir rhai o'r pynciau ar y cyd ag ysgolion eraill Môn a Gwynedd, ar safle'r ysgol hon a thu hwnt.

Mae llawer o bynciau newydd yn cael eu cyflwyno i ddisgyblion y Chweched dosbarth gan gynnwys : Seicoleg, Cymdeithaseg, Y Gyfraith a mathemateg pellach

Cyn-ddisgyblion Nodedig golygu

Gweler categori Pobl addysgwyd yn Ysgol David Hughes

Dolen allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.