Einion Sais

( -1328)

Clerigwr o Gymru a fu'n Esgob Bangor o 1309 hyd ei farwolaeth oedd Einion Sais (neu Anian Sais) neu Anian II (bu farw 1328). Cyfeiria'r "Sais" yn ei enw at y ffaith ei fod yn medru'r iaith Saesneg[1] (ond gweler isod hefyd).

Einion Sais
Bu farw1328 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Bywgraffiad

golygu

Cofnodir i'r cabidwl ofyn am hawl i ethol Esgob ym Mangor ar 2 Mai 1309, ac i Archesgob Caergaint gadarmhau etholiad Einion ar 18 Medi yr un flwyddyn. Cysegrwyd ef yng Nghaergaint gan yr Archesgob ar 9 Tachwedd.

Y farn gyffrediniol ymhlith ysgolheigion bellach yw mai ef oedd yr aniani bangor epicopi y cyfeirir ato yn Esgoblyfr Bangor, ac mai ei eiddo ef ydoedd ym wreiddiol, yn hytrach nag eiddo Anian I.

Mae'n bosibl mai Anian oedd yr esgob y cwynir am y ffaith ei fod yn noddi cerddorion Seisnig iselradd yn lle'r beirdd Cymraeg mewn cerdd unigryw gan Iorwerth Beli.[2] Os felly, priodol oedd y llysenw 'Sais' arno.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur Prifysgol Cymru.
  2. N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995).

Dolen allanol

golygu