Iorwerth Beli
Un o'r cynharaf o Feirdd yr Uchelwyr oedd Iorwerth Beli (bl. dechrau'r 14g).[1] Dim ond un o'i gerddi sydd wedi goroesi ond mae honno'n rhoi darlun o lys Esgob Bangor a'r cystadlu am nawdd yno ar ddechrau'r 14g.
Iorwerth Beli | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguBardd o Wynedd oedd Iorwerth Beli, naill ai o Arfon neu Fôn. Ni wyddom fawr dim arall amdano.[1]
Cerdd
golyguMae ei unig gerdd yn awdl sy'n cwyno'n dost am fod Esgob Bangor wedi troi at noddi cerddorion Seisnig iselradd (minstrels) ar draul y beirdd Cymraeg. Mae'n dra thebygol mai Anian Sais (Esgob Bangor o 1309 hyd ei farw yn 1327) oedd yr esgob hwnnw.[2]
Mae'r bardd yn edliw'r esgob am droi ei gefn ar yr etifeddiaeth Gymraeg ac yn ddrych i argyfwng y gyfundrefn farddol yn y degawdau yn dilyn cwymp Llywelyn Ein Llyw Olaf a Dafydd ap Gruffudd. Cyfeiria'n hiraethus at feirdd llys mawr Gwynedd cyn y Goncwest, fel Cynddelw Brydydd Mawr a Dafydd Benfras. Mae ei ddirmyg at y crach-gerddorion Seisnig yn huawdl. Diddorol hefyd i haneswyr llên a llên gwerin Cymru yw'r adran yn y gerdd sy'n sôn am y chwedl am y brenin Maelgwn Gwynedd yn gorfodi'r beirdd a'r cerddorion i nofio dros Afon Menai i brofi eu gallu; y beirdd a enillodd a chawsant ffafr y brenin wedyn ar draul y cerddorion. Dyma un o ddau gyfeiriad at y chwedl hon; ceir y llall mewn cerdd a briodolir i Daliesin ond sy'n perthyn i ran olaf yr Oesoedd Canol.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- N.G. Costigan (Bosco) ac eraill (gol.), Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli (Aberystwyth, 1995).
Cyfeiriadau
golyguBedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd