Eisteddfod Corwen 1789

Eisteddfod a gynhaliwyd gan y Gwyneddigion yn nhref Corwen, Sir Ddinbych, ym mis Medi 1789 oedd Eisteddfod Corwen 1789. Dyma'r esiteddfod gyntaf i gael ei threfnu gan y Gwyneddigion. Er mai eisteddfod ar gyfer gogledd Cymru oedd hi yn bennaf, mae'n cael ei gweld fel carreg filltir yn hanes datblygiad Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Eisteddfod Corwen 1789
Enghraifft o:eisteddfod Edit this on Wikidata
Dyddiad1789 Edit this on Wikidata
LleoliadCorwen Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Thomas Jones o Ddinbych a wnaeth yr holl drefniadau, a hynny ar ei gost ei hun. Cafwyd gwobr o gledrffon arian gyda llun telyn arni gan y bonheddwr lleol Robert Williams Vaughan o Rug a Nannau. Rhoddodd Edward Jones (Bardd y Brenin) dlws i'r buddugwr Cerdd Dant.

Roedd "I Owain Glyndŵr" yn un o destunau'r eisteddfod. Cafwyd cerddi ar y testun gan Twm o'r Nant a Walter Davies (Gwallter Mechain). Diddorol nodi i'r eisteddfod gael ei chynnal yng Ngwesty Owain Glyn Dŵr. Enillodd Walter Davies y tlws, er mawr siomedigaeth i Twm o'r Nant ac eraill. Bu cryn trafod ac ymgecru am y dyfarniad gyda chyhuddiadau o lwgrwobrwyo a chynllwyn yn erbyn Walter Davies.

Ffynhonnell

golygu

Helen Ramage, 'Eisteddfodau'r 18g', yn Idris Foster (gol.), Twf yr Eisteddfod (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968)