Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1864
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1864 yn Llandudno, Sir Gaernarfon, ar 24-26 Awst 1864, o ddydd Mercher i nos Wener.[1]
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1864 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Llandudno |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Ioan yn Ynys Patmos". Derbyniwyd saith cyfansoddiad a thraddodwyd y feirniadaeth gan Nicander ar ran ei gyd-feirniad Emrys gan ddatgan fod 'Barakel' yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd). Fe'i cludwyd i'r gadair gan Clwydfardd a Thalhaiarn.[2]
Roedd cryn feirniadaeth o'r Eisteddfod yma yn y wasg Gymreig gyda erthygl olygyddol yn Seren Cymru yn ei alw'n "fethiant hollol" yn rhannol am ei fod wedi gwneud colled o £200 ond hefyd am ddiffyg trefn. Fe'i ddisgrifwyd yn y Faner fel Eisteddfod "fflat... ddi-hwyl, ddi-fynd, ddi-fywyd".[3] Nid oedd dyddiadau'r eisteddfod wedi ei hysbysu'n ddigonol yn y de a ni chafwyd un côr yn cystadlu. Roedd yna bryderon hefyd am unffurfioldeb y gweithgareddau a'r areithiau, y gost o logi'r pafiliwn, a'r lleoliad.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yr Eisteddfod Genedlaethol - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-09-11. Cyrchwyd 2016-08-13.
- ↑ "Y GYMDEITHAS HENAFIAETHOLI GYMREIGl - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1864-09-02. Cyrchwyd 2016-08-13.
- ↑ "YR EISTEDDFOD - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1864-09-16. Cyrchwyd 2016-08-13.
- ↑ "YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YN LLANDUDNO - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1864-09-03. Cyrchwyd 2016-08-13.