Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd)

bardd (1836-1870)

Roedd Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd) (14 Ionawr 1836 - 8 Mawrth 1870) yn fardd Cymreig ac yn weinidog gyda'r Annibynwyr.[1]

Richard Foulkes Edwards
FfugenwRhisiart Ddu o Wynedd Edit this on Wikidata
Ganwyd14 Ionawr 1836 Edit this on Wikidata
Llanfair Dyffryn Clwyd Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 1870 Edit this on Wikidata
Rosendale Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Risiart Ddu yn yr Hendre, Llanfair, Dyffryn Clwyd y chweched blentyn o ddeg i Hugh Edwards, amaethwr a Mary (née Foulkes) ei wraig. Roedd Risiart Ddu yn dod o deulu barddol, roedd John Jones (Talhaiarn) yn perthyn i'w dad a William Williams (Caledfryn) yn perthyn i'w fam. Roedd ei frawd John Edwards (Mafoniog) a'i chwaer Emily Edwards (Eigen o Wynedd) hefyd yn feirdd. Pan oedd Risiart yn ifanc iawn symudodd y teulu i fyw i Dŷ'n y Celyn, Bodfari. Ar dir Tŷ'n y celyn roedd bwthyn wag o'r enw Hwlcin. Trodd Hugh Edwards y bwthyn yn ysgoldy i'w blant a chyflogodd John Luthner Outlaw, mab i offeiriad Eglwys Loegr oedd wedi ymddeol i'r fro, i fod yn athro ar yr ysgol.[2]

Ym 1850 danfonodd Hugh Edwards ei fab hynaf i brynu fferm i'r teulu yn Rosendale, Wisconsin. Y bwriad oedd i weddill y teulu ei ddilyn ef yno ym 1852. Ond ohiriwyd y daith o herwydd ofn Mrs Edwards o hwylio. Symudodd y teulu o Dŷ'n y Celyn i fferm llawer llai, Plas Llanychan, Rhuthun. Caewyd ysgol Hwlcin a bu'n rhaid i Risiart Ddu chwilio am waith. Cafodd swydd fel clerc i gwmni gyfreithwyr yn Rhuthun, gan fyrddio yn nhŷ'r Parch John Roberts (J.R.), gweinidog Annibynwyr y dref ar y pryd. Ym 1858 cyhoeddodd lyfr o'r cerddi bu'n cyfansoddi yn ystod ei laslencyndod Y Blaenffrwyth Cafodd y llyfr derbyniad da.[3]

Gohiriwyd y bwriad i deithio i'r Unol Daleithiau eto gan fod Eigen o Wynedd wedi ei tharo a salwch. Barn y meddyg oedd byddid mordaith yn profi'n angheuol iddi. Aeth y tad a rhai o'r plant draw i Wisconsin, ond arhosodd y fam Eigen a Risiart yng Nghymru gan wneud cartref yn Ninbych. Aeth Risiart i weithio i swyddfa'r Faner gyda Thomas Gee. Yn Ninbych dechreuodd pregethu hefyd. Cafodd ei urddo yn dderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1860.[4]

Ym 1862 aeth i athrofa'r Annibynwyr yn y Bala lle fu'n disgybl i Michael D Jones a John Peter. Ym 1863 ymgeisiodd am y gader yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe am Farwnad i Albert y tywysog cydweddog. Enillwyd y gader gan ei gar Talhaiarn, ond cafodd Risiart beirniadaeth dda.[5] Ymgeisiodd eto yn Eisteddfod Llandudno ym 1864 gyda'i awdl Ioan yn Ynys Patmos gan ddod yn fuddugol.[6]

Wedi darfod yn yr athrofa bwriad Risiart oedd mynd i Brifysgol Glasgow i ennill gradd. Gan ei fod wedi buddsoddi popeth yn ei fferm yn Wisconsin nid oedd ei dad yn gallu talu ffioedd y brifysgol a bu Risiart yn astudio ar gyfer arholiad ysgoloriaeth. Pan ddaeth yr amser iddo sefyll yr arholiad fe drawyd yn wael a bu'n rhaid iddo aros yn Nhywyn, Meirionnydd, ar gyngor ei feddyg, i geisio gwellhad gan wynt y môr.[7]

Yn y cyfamser cafodd alwad i wasanaethu fel gweinidog yr Annibynwyr ym Mynydd Islwyn. Gan ddisgwyl cael gwellhad buan derbyniodd yr alwad. Ond ni ddaeth wellhad parhaodd ei salwch am rai misoedd a bu'n rhaid iddo droi lawr yr alwad i Fynydd Islwyn. Awgrymodd ei feddyg iddo fynd ar fordaith i geisio gwellhad. Penderfynodd teithio i'r America i ymweld â'i deulu. Tra ar y daith dysgodd bod Eigen o Wynedd, ei chwaer, wedi marw.

Wedi cyrraedd America awgrymodd meddyg iddo i beidio mynd yn syth i Wisconsin ond i fynd i Minnesota lle mae'r awyr yn fwy sych, ac felly wnaeth.[8] Dwedodd ei feddyg hefyd nad oedd yn debygol o gael adferiad iechyd digonol i allu cael gofal eglwys fel gweinidog. Er hynny fe gafodd ei ordeinio yn weinidog ar 16 Mai, 1869 yng nghapel yr Annibynwyr yn South Bend, Minnesota. Yn ystod tymor y gaeaf 1869 aeth i Wisconsin i gael aduniad a'i deulu.

Enillodd ei unig brif wobr eisteddfodol yn yr Unol Daleithiau am bryddest er cof am y bardd Cymraeg Americanaidd William Williams (Gwilym ab Ioan) yn Eisteddfod Calan Utica. Tra yn yr America cafodd glywed ei fod wedi ennill Cadair a £21 am awdl Y Pregethwr - er cof am y diweddar Barchedig Henry Rees yn eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl.[9]

Marwolaeth

golygu

Erbyn iddo gyrraedd fferm y teulu roedd y diciâu wedi cymryd gafael angheuol o'i gorff a bu farw ym mhresenoldeb ei deulu'r gwanwyn nesaf yn 34 mlwydd oed.[10] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Capel Saron, Rosendale. Cyhoeddwyd cofiant iddo gan un fu'n cyd efrydydd yn y Bala, Y Parch R. Mawddwy Jones, Cofiant a Gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.

Nodiadau

golygu

Ffynonellau

golygu

Jones, R. Mawddwy; Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd

Cyfeiriadau

golygu
  1. EDWARDS, RICHARD FOULKES (‘Rhisiart Ddu o Wynedd’; 1836 - 1870), bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 26 Hyd 2020]
  2. Jones Chapter III Early Life
  3. Cronicl y Cymdeithasau Crefyddol Cyf. XV rhif. 170 - Mehefin 1857 Adferwyd 26 Hyd 2020]
  4. "EISTEDDFOD GENEDLAETHOL DINBYCH - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1860-08-31. Cyrchwyd 2020-10-26.
  5. Jones Chapter V Going to Denbigh and Bala
  6. "YR EISTEDDFOD - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1864-09-02. Cyrchwyd 2020-10-26.
  7. Jones Chapter VII Anxious to enter Glasgow University
  8. "MARWOLAETH RISIART DDU O WYNEDD - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1870-03-23. Cyrchwyd 2020-10-26.
  9. "LIVERPOOL - Y Dydd". William Hughes. 1869-12-31. Cyrchwyd 2020-10-26.
  10. "MARWOLAETH RISIART DDU - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1870-04-09. Cyrchwyd 2020-10-26.