Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1945

prifwyl yn Rhosllannerchrugog

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1945 yn Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych (Bwrdeistref Sirol Wrecsam bellach).

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhosllannerchrugog 1945
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1945 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadRhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cafwyd perfformiad gyntaf Prelude for the Youth of Wales gan Arwel Hughes yn yr eisteddfod. Perfformiwyd y gwaith hwn o flaen bedwar mil o bobl ym mhafiliwn yr Eisteddfod yn Rhosllannerchrugog. Trefnwyd y gyngerdd hon gan drigolion Rhosllannerchrugog a hefyd pwyllgor y 'Rhos Mine Workers' Institute' ('Y Stiwt' ar lafar yn lleol).

Perfformiwyd y rhaglen gan Gerddorfa Ffilharmonig Lerpwl dan arweinyddiaeth Albert Coates gyda Eva Turner yn unawdydd. Canwyd clod i "un o gyfansoddwyr gorau Cymru", Arwel Hughes, a arweiniodd y perfformiad cyntaf o'i waith Prelude for the Youth of Wales, gwaith i gerddorfa lawn.

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Yr Oes Aur - Tom Parri Jones
Y Goron Coed Celyddon - Griffith John Roberts

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.