Bardd ac awdur Cymreig oedd Tom Parri Jones (19051980), sy'n adnabyddus am ei straeon byrion ffraeth. Roedd yn frodor o Ynys Môn, lleoliad nifer o'i straeon.

Tom Parri Jones
Ganwyd1905 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
Bu farw1980 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Dim ond ychydig o addysg ffurfiol a gafodd. Gadawodd yr ysgol yn 13 oed i weithio ar fferm ei dad. Fe'i trawyd gan polio yn ifanc a bu'n dioddef ohono am weddill ei oes.

Roedd yn fardd crefftus. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am y gerdd Y Bont yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1963, a'r Gadair hefyd.

Fe'i cofir yn bennaf am ei straeon byrion ysgafn a llawn hiwmor am fywyd gwerin Môn. Enillodd y Fedal Ryddiaith am y gyfrol Teisennau Berffro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangefni 1957. Bu'n orweddiog oherwydd y polio am gyfnodau hir wrth ysgrifennu'r olaf o'r straeon hyn.

Llyfryddiaeth golygu

Cerddi golygu

  • Preiddiau Annwn (1946)
  • Cherddi Malltraeth (1978)

Straeon golygu

  • Teisennau Berffro (1958)
  • Yn Eisiau, Gwraig (1958)
  • Traed Moch (1971)
  • Y Felltith (1977)