Eisteddfod T, 2021
Cynhaliwyd Eisteddfod T, 2021 rhwng 31 Mai - 4 Mehefin 2021. Daeth yn sgîl effaith parhaol Covid-19 a'r 'Gofid Mawr' (Covid-19 yng Nghymru), a'r gwaharddiadau am deithio a chymysgu cymdeithasol bua bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd oedd i'w chynnal yn Ninbych am flwyddyn arall. Yn dilyn llwyddiant menter fyr-rybudd Eisteddfod T, 2020 bwriwyd ymlaen gydag eisteddfod ar-lein a rhithiol arall.
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2021 |
Lleoliad | ar-lein |
Daeth arlwy'r Eisteddfod yn fyw ar S4C o ddydd Llun i ddydd Gwener, 31 Mai - 4 Mehefin 2021, o Wersyll yr Urdd Llangrannog o fewn cyfyngiadau Covid-19.
Yn sgil y newid anferthol cafwyd cystadleuaethau newydd a gwahanol fel rhan o'r eisteddfod gyda chystadleuwyr yn danfon clipiau wedi eu ffilmio gartref i fewn i S4C. Gweld dros 120,000 o gystadleuwyr yn cymryd rhan mewn 120 cystadleuaeth.
Bu i 12,000 gymryd rhan mewn rhyw fodd boed yn cystadlu, hyfforddwyr, athrawon a’r golygyddion ac i bob cyfeilydd a’r unigolion fu’n gyfrifol am recordio a chofrestru’r gwaith a’r fideos.[1]
Ymysg un o'r cystadlaethau newydd oedd cystadleuaeth creu fideo i gyfryngau cymdeithasol.[2]
Prosiectau Untro
golyguFel rhan o ymdrech i gydweithio gyda chyfyngiadau Covid-19 a hefyd cyfleuoedd y cyfryngau cymdeithasol a'r rhwydwaith gyfryngau Gymraeg, creuwyd tair prosiect untro i adael gwaddol i'r Eisteddfod T.
Prosiect Plethu
golyguFel rhan o Eisteddfod T eleni, mae grwpiau o bobl ifanc ar draws Cymru wedi bod yn cydweithio ac yn arbrofi gyda'r celfyddydau i greu perfformiadau newydd a chyffrous, gan gyfuno arddulliau a diwylliannau gwahanol.[3]
Epilog Eisteddfod T
golyguYn arbennig ar gyfer Eisteddfod T, gwelwyd pump artist cyfoes wedi mynd ati i greu fersiwn newydd o'r Emyn Hwyrol (Nefol Dad Mae Eto'n Nosi), cân fydd yn adnabyddus i rai oedd wedi aros dros nos yng Ngwersyll yr Urdd, ac wedi canu hon cyn mynd i'r gwely.[3]
Bwyd, Bwyd, Bwyd!
golyguCasgliad o fideos cam wrth gam yng nghwmni Caffi Ffika a Geoff o Gegin Caribî gyda rysetiau ac arddangosfeydd coginio.[3]
Gohirio Eisteddfod corfforol
golyguCynhaliwyd Eisteddfod Sir Ddinbych, yr eisteddfod oedd i'w chynnal yn 2020 a 2021, maes o law yn 2022.
Enillwyr
golygu- Y Goron - Megan Angharad Hunter o Benygroes Dyffryn Nantlle[4]
- Y Gadair -
- Y Fedal Ddrama - Rhiannon Lloyd Williams [5][6]
- Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg -
- Y Fedal Lenyddiaeth -
- Prif Gyfansoddwr - [7]
- Medal y Dysgwr -
- Medal Bobi Jones -
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod T, 2020
- Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd - rhestr enillwyr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "O'r soffa i sedd y pafiliwn! Eisteddfod T". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Eisteddfod T: Enillwyr cystadleuaeth creu fideo i gyfryngau cymdeithasol". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2021.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Dyma Eisteddfod i ti, o'r tŷ". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Megan Angharad Hunter yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 18 Hydref 2021.
- ↑ "EISTEDDFOD T WINNERS DIGITAL YOUTH FESTIVAL". Wales Arts Review News. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Prif Ddramodydd Eisteddfod T 2021". Facebook yr Urdd. 2 Mehefin 2021.
- ↑ "Gwobrwyo enillydd Medal Gyfansoddi'r Urdd 2020/21". BBC Cymru Fyw. 19 Hydref 2021.
Dolenni allanol
golygu- Fideo Uchafbwyntiau Eisteddfod T ar wefan yr Urdd
- Epilog Eisteddfod T, 2021 caneuon gan wahanol artistiaid wedi eu hysbrydoli i greu fersiwn newydd o'r Emyn Hwyrol (Nefol Dad Mae Eto'n Nosi), ar sianel Youtube y mudiad
- Rhestr cyn eisteddfodau (hyd 2023) tudalen 6