Eisteddfod T, 2020

Eisteddfod ar-lein a gynhaliwyd gan yr Urdd yn sgil gwaharddiadau Covid-19 (cynhaliwyd Eisteddfod T, 2021 am yr un rheswm). Bu'n rhaid gohirio Eisteddfod Sir Ddinbych hyd at 2022.

Eisteddfod T, 2020 yw'r enw a fathwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2020 Yn sgil efaith Covid-19 a'r 'Gofid Mawr' (Covid-19 yng Nghymru), bu gwaharddiadau amrdeithio a chymysgu cymdeithasol a bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd oedd i'w chynnal yn Ninbych. Penderfynioddyr Urdd ar fyr-rybudd, gan bod y gwaith cartref eisoes wedi 'iegflwyno, oedd bwrw ymlaen gyda chymaint o arlwy a chystadlaethau'r Eisteddfod ag oedd bosib ,a'i ddarlledu. Daeth arlwy'r Eisteddfod yn fyw ar S4C o ddydd Llun i ddydd Gwener, 25 – 29 Mai, 2020 o stiwdio dros dro yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris.

Eisteddfod T, 2020
Enghraifft o'r canlynolEisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2020 Edit this on Wikidata
Lleoliadar-lein Edit this on Wikidata
Gwersyll yr Urdd, Caerdydd bu'n stiwdio ar gyfer darlledu Eisteddfod T yn 2020

Yn sgil y newid anferthol hwn, cafwyd cystadleuaethau newydd a gwahanol fel rhan o'r eisteddfod gyda chystadleuwyr yn danfon clipiau wedi'u ffilmio gartref i fewn i S4C.

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Dwi'n hynod falch bod S4C wedi penderfynu darlledu holl gyffro Eisteddfod T ar y brif sgrin. Mae'r ymateb i Eisteddfod T wedi bod yn wych, gyda dros 4,000 wedi ymgeisio ar yr amrywiaeth o gystadlaethau."[1]

Cynhaliwyd Eisteddfod Sir Ddinbych, yr eisteddfod oedd i'w chynnal yn 2020, maes o law yn 2022.

Enillwyr golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Eisteddfod T yn fyw ar y brif sgrin dros wythnos yr Urdd". Gwefan S4C. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
  2. "Megan Angharad Hunter yn cipio Coron Eisteddfod yr Urdd 2020-21". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
  3. "Prifardd Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 29 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
  4. "Prif Ddramodydd Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 27 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
  5. "Prif Lenor Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 28 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
  6. "Prif Gyfansoddwr Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 25 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.
  7. "Prif Ddysgwr Eisteddfod T 2020". sianel Facebook S4C. 26 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2023.

Dolenni allanol golygu