Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2022

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a gynhaliwyd ger tref Dinbych

Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2022 a gynhaliwyd ger tref Dinbych rhwng 30 Mai - 4 Mehefin 2022. Cynhaliwyd yr eisteddfod dwy flynedd wedi'r flwyddyn a fwriadwyd gan i haint Covid-19 arwain at wahardd teithio a chymysgu cymdeithasol ac yn ei lle cynhaliwyd Eisteddfod T, 2020 ac yna Eisteddfod T, 2021 yn ei lle.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2022
Enghraifft o'r canlynolEisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2022 Edit this on Wikidata
LleoliadDinbych Edit this on Wikidata
Lluman y credir y'i defnyddiwyd yn Eisteddfodau'r Urdd yn yr 1930au. Cyflwynwyd y faner yn 2022 i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Gwelwyd y nifer uchaf erioed yn mynychu'r Eisteddfod, gyda 118,000 yn dod i'r digwyddiad yn ystod yr wythnos. Cafwyd mynediad am ddim i'r Maes a bu tri pafiliwn yno hefyd i roi cyfle i ragor o gystadleuwyr fod ar y llwyfan mawr.[1]

Gŵyl Triban golygu

Datblygiad newydd arall yn yr Eisteddfod yn 2022 oedd Gŵyl Triban, a gynhaliwyd ar dridiau ddiwethaf wythnos yr ŵyl (2-4 Mehefin). el rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant roedd arlwy Gŵyl Triban yn gyfle gwych i adlewyrchu cerddoriaeth gyfoes Cymraeg, a dathlu perfformwyr a chaneuon y gorffennol, ac yn blethiad o’r hen a newydd. Ymysg y perfformwyr - oedd i gyd ar y Maes yn y 'Garddorfa' oedd: Cabarela, Tara Bandito yn cael ei hymuno ar lwyfan gan Eden, hefyd Yws Gwynedd, Gwilym, ac Eädyth, a'r cerddor N’Famady Koyuate. Fel rhan o arlwy nostalgia Gŵyl Triban, bu Tecwyn Ifan a Delwyn Siôn yn perfformio cyn i Adwaith ac Eden gloi’r noson.[1]

Enillwyr golygu

  • Y Goron - Twm Ebbsworth o Lanwnnen, Ceredigion[1] yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, enillodd Gadair Genedlaethol y Mudiad yn 2019, ynghyd â dwy Goron Eisteddfod Rhyng-golegol yn 2020 a 2022.[2]
  • Y Gadair - Ciarán Eynon o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy, cyn-ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn a myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair ac yn drydydd yng nghystadleuaeth Prif Lenor Eisteddfod T y llynedd.[1][3]
  • Y Fedal Ddrama - Osian Wynn Davies o Lanfairpwll[1]
  • Tlws Cyfansoddwr - Shuchen Xie, 12 oed, o Gaerdydd, sef yr ieuengaf erioed i ennill Prif Wobr yr Urdd yn hanes yr Eisteddfod.[1] Roedd yn ddisgybl yng Ngholeg St Ioan. Caerdydd ac yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[4]
  • Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg - Nel Thomas 16 oed o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd oedd wedi cystadlu sawl gwaith yn y gorffennol gyda'i gefaill, Casi.[5]
  • Y Fedal Lenyddiaeth -
  • Medal y Dysgwr - Josh Osborne 24 oed o Poole oedd yn byw yn Abertawe. Cyflwynwyd y fedal i berson 18-25 oed sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eu Cymreictod. Ysbrydolwyd i ddysgu Cymraeg gan ei gariad, Angharad.[6][1]
  • Medal Bobi Jones - i berson dan 19 oed sy'n dangos eu hymrwymiad i ddysgu'r iaith. Anna Ng, 18 oed ac yn mynychu Ysgol Uwchradd Caerdydd yn astudio Cemeg, Cymraeg (Ail Iaith) a Saesneg, ac roedd yn gobeithio mynd ymlaen i ddilyn cwrs Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd ei thad yn dod o China a'i mam yn wreiddiol o Norwy ac yna'r Alban.[7]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Niferoedd uchaf erioed yn mynychu Eisteddfod yr Urdd 2022". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
  2. "Twm Ebbsworth yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru. 3 Mehefin 2022. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
  3. "Urdd: Ciarán Eynon wrth ei fodd wrth gipio'r Gadair". BBC Cymru. 2 Mehefin 2022.
  4. "Eisteddfod: Shuchen Xie, 12, yn ennill y Fedal Gyfansoddi". BBC Cymru. 30 Mai 2022. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
  5. "Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
  6. "Twm Ebbsworth yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru. 3 Mehefin 2022. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.
  7. "Twm Ebbsworth yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd". BBC Cymru. 3 Mehefin 2022. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.

Dolenni allanol golygu