Ynys Elba
(Ailgyfeiriad o Elba)
Ynys oddi ar arfordir gorllewinol yr Eidal yw Ynys Elba (Eidaleg: Isola d'Elba).
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Portoferraio |
Poblogaeth | 32,000 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Tuscan Archipelago |
Sir | Talaith Livorno |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 223 km² |
Uwch y môr | 1,019 metr |
Gerllaw | Môr Liguria |
Cyfesurynnau | 42.78°N 10.275°E |
Hyd | 29 cilometr |
Poblogaeth wreiddiol yr ynys oedd y Ligwriaid, a roddodd ei hen enw, Ilva, i'r ynys. Yn ddiweddarach cipiwyd yr ynys gan yr Etrwsciaid, yna gan y Rhufeiniaid.
Preswylydd enwocaf yr ynys oedd Napoleon, a alltudiwyd yno dan delerau Cytundeb Fontainebleau yn 1814. Cyrhaeddodd Portoferraio ar 3 Mai, 1814. Bu yno am 300 diwrnod, gan wneud llawer i wella bywyd trigolion yr ynys. Dihangodd o'r ynys a dychwelyd i Ffrainc ar 26 Chwefror 1815.
Yn 1860 daeth yr ynys yn rhan o deyrnas unedig yr Eidal. Erbyn hyn mae'r ynys yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn enwog am ei gwin.