Eleazar Roberts

cerddor

Cerddor, cyfieithydd a seryddwr amatur oedd Eleazar Roberts ( 15 Ionawr 18256 Ebrill 1912). Roedd yn fab i John a Margaret Roberts. Pan yn ddeufis oed fe symudon nhw i Lerpwl. Cafodd ei addysg yn ysgol Owen Brown, Rose Place, a'r Liverpool Institute. Fe aeth i weithio i swyddfa gyfieithwyr yn 13 mlwydd oed.[1]

Eleazar Roberts
Ganwyd15 Ionawr 1825 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 1912 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethseryddwr, athro cerdd, cerddor, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd ym Mhwllheli, Sir Gaernarfon. Yn 1853 aeth i swyddfa clerc yr ustusiaid, a dringodd i'r safle o brif gynorthwywr i glerc ynad cyflog y ddinas; daliodd y swydd hyd ei ymddiswyddiad yn 1894. Gwnaed ef yn ustus heddwch yn 1895. Ysgrifennodd i'r cylchgronau Y Drysorfa, Y Traethodydd, a'r Geninen, ac yn wythnosol i'r Amserau dan yr enw "Meddyliwr". Astudiodd seryddiaeth a chyfieithodd ddwy gyfrol Dr. Dick ar y gyfundrefn heulog yn Gymraeg, ac âi o gwmpas i ddarlithio ar seryddiaeth. Ef a ysgrifennodd gofiant Henry Richard ("Apostol Heddwch") a'r nofel Gymraeg Owen Rees, sydd yn darlunio bywyd Cymreig yn Lerpwl. Ef oedd arloeswr cyfundrefn y tonic sol-ffa yng Nghymru, a theithiodd ar hyd a lled Cymru i'w hegluro ac i sefydlu dosbarthiadau cerddorol. Cyhoeddodd Bywyd a Gwaith Henry Richard AS, Llawlyfr Caniadaeth, Llawlyfr y Tonic Solffa, Llawlyfr i ddarllen yr Hen Nodiant, a Hymnau a Thonau. Bu'n flaenor ac yn arweinydd y canu yng nghapel Netherfield Road, ac ef (gyda John Edwards) a arweiniodd y gymanfa ganu gyntaf yn Lerpwl yn 1880. Ef a gyfansoddodd yr emyn poblogaidd "O na bawn yn fwy tebyg i Iesu Grist yn byw". Bu farw 6 Ebrill 1912, a chladdwyd ef ym mynwent Anfield, Lerpwl.

Ffynonellau golygu

  • Y Cerddor, Awst 1896 a Mai 1912
  • J. Hughes Morris, Hanes Methodistiaeth Liverpool (Lerpwl, 1929-1932)
  • J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid (1945)

Cyfeiriadau golygu

  1. "ROBERTS, ELEAZAR (1825 - 1912), musician | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2019-01-17.