Electrocemeg
Is-ddisgyblaeth o gemeg sy'n ymwneud ag adweithiau cemegol yn digwydd mewn toddiant neu hydoddiant, ar ryngwyneb dargludydd electronau (yr electrod: metel neu led-ddargludydd) a dargludydd ïonig (yr electrolyt) yw electrocemeg. Mae'r adweithiau hyn yn cynnwys trosglwyddiad electronau rhwng yr electrod a'r electrolyt.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4f/Faraday_and_Daniell.jpg/220px-Faraday_and_Daniell.jpg)
Adwaith electrocemegol ydy un sy'n gyredig gan foltedd cymhwyso allanol, fel mewn electrolysis, neu un sy'n creu foltedd o ganlyniad yr adwaith, fel mewn batri. O'u cymharu ag adweithiau electrocemegol, mae adweithiau rhydocs yn adweithiau cemegol lle trosglwyddir electronau rhwng moleciwlau. Ar y cyfan, mae electrocemeg yn delio gyda sefyllfaoedd lle gwahanir adweithiau rhydocs mewn gofod neu amser, cysylltiedig gan cylched trydanol allanol.
Gweler hefyd
golygu[[Categori:Cemeg ffisegol]