Elen Egryn
Elen Egryn oedd enw barddol Elin (neu Elinor) Evans (1807–1876), bardd Cymraeg o Lanegryn, Meirionnydd.[1] Hi oedd un o'r menywod gyntaf i gael llyfr wedi ei gyhoeddi yn y Gymraeg.
Elen Egryn | |
---|---|
Ganwyd | 1807 Llanegryn |
Bu farw | 1876 |
Man preswyl | Lerpwl, Machynlleth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Adnabyddus am | Y Gymraes |
Bywgraffiad
golyguRoedd Elen Egryn yn ferch i Ellis Humphrey Evans, ysgolfeistr pentref, a'i wraig. Cafodd ei magu yng ngorllewin Cymru, ym mhentref bach Llanegryn, ac yna yn sir Feirionnydd, lle dysgodd i ysgrifennu barddoniaeth yn blentyn.[2] Symudodd i Lerpwl yn 1840, ond yn fuan dychwelodd i Fachynlleth nid nepell o'i thref enedigol. Yno yn 1850 creodd y casgliad Telyn Egryn, gan ddod y ferch gyntaf erioed i gyhoeddi llyfr seciwlar yn y Gymraeg. Er na dderbyniodd yr un faint o sylw a beirdd gwrywaidd y dydd, mae ei gwaith yn cael ei ystyried i fod yn garreg filltir yn hanes llên menywod yng Nghymru.[3] Mae'n cyflwyno ystod eang o gerddi sy'n cwmpasu profedigaeth, cyfeillgarwch, alltud ac iselder, ac yn bwrpasol wedi creu argraff o'r safonau moesol uchel oedd yn cael eu mwynhau gan ferched Cymru.[4] Mae ei barddoniaeth yn nes at waith beirdd o'r 18g na beirdd o oes Fictoria a'i dilynodd hi am ei bod yn defnyddio iaith oedd wedi ei wreiddio yn y cyfnod cyn- canoloesol.[5]
Hefyd yn 1850, mewn ymateb i gyhoeddiad y Llyfrau Gleision oedd yn beirniadu moesau rhydd ac ymddygiad merched Cymru, cyhoeddodd Evan Jones (1820-1852) Y Gymraes a aeth ati i amddiffyn egwyddorion uwch menywod Cymru. Cyfrannodd Elen Egryn gyflwyniad barddol i'r rhifyn cyntaf, lle galwodd i ferched i godi "goruwch gwarth a dirmyg cas".[5]
Gwaith
golygu- Egryn, Elen (1998). Telyn Egryn. Honno. ISBN 978-1-870206-30-3.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Baines, Menna (2008). The Welsh Academy encyclopaedia of Wales. University of Wales Press. t. 269. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ Stephens, Meic (1998). The new companion to the literature of Wales. University of Wales Press. t. 229. ISBN 978-0-7083-1383-1.
- ↑ Gramich, Katie. "Orality and Morality: Early Welsh Women's Poetry". Acume: Oral and Written History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-13. Cyrchwyd 1 April 2016.
- ↑ "Telyn Egryn". Honno. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-10. Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.
- ↑ 5.0 5.1 Aaron, Jane (2010). Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity. University of Wales Press. tt. 94–. ISBN 978-0-7083-2287-1.