Elihu Yale
masnachwr, casglwr celf, masnachwr caethweision (1649-1721)
Ganwyd Elihu Yale (5 Ebrill 1649 – 8 Gorffennaf 1721) yn Boston, Massachusetts, UDA ac roedd yn ddyn busnes llwyddiannus iawn; rhoddwyd ei enw ar Brifysgol Iâl (Yale University) a Choleg Iâl, Wrecsam, sydd ers 2013 yn rhan o Goleg Cambria. O ffermdy Plas yn Iâl, Llandegla, Dyffryn Clwyd y deuai ei rieni. Roedd hefyd yn un o berchnogion y British East India Company ac yn ddyngarwr amlwg.
Elihu Yale | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 5 Ebrill 1649 ![]() Boston ![]() |
Bu farw | 8 Gorffennaf 1721 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | masnachwr, casglwr celf, masnachwr caethweision ![]() |
Swydd | Rhaglaw Madras ![]() |
Tad | David Yale ![]() |
Mam | Ursula Knight ![]() |
Priod | Hieronima de Paiva, Catherine Elford ![]() |
Plant | Anne Yale, Catherine Yale, Charles Yale, David Yale, Ursula Yale ![]() |
Llinach | Yale family ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Bu'n gweithio am flynyddoedd yn Madras, India, a gwrthwynebai'r defnydd o blant fel caethweision.
Fe'i claddwyd yn Eglwys San Silyn, Wrecsam.
-
Beddrod Elihu Yale yn Eglwys San Silyn, Wrecsam
-
Hen gartref Yale: Plas Grono, bellach yn rhan o Erddig