Elis Prys (Y Doctor Coch)
Uchelwr o Blas Iolyn, ger Rhydlydan (Conwy heddiw ond yn Sir Ddinbych yn yr amser hwnnw) oedd Elis Prys (c.1512 - 1594). Roedd yn adnabyddus fel "Y Doctor Coch o Blas Iolyn" am ei fod yn gwisgo'r gown ysgarlad academaidd a gafodd ar ôl graddio ym Mhrifysgol Caer-grawnt.
Elis Prys | |
---|---|
Ganwyd | 1505 Sir Ddinbych |
Bu farw | 8 Hydref 1594 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1558, Member of the 1563-67 Parliament |
Plant | Tomos Prys |
Bywgraffiad
golyguChwareodd y Dr Prys ran bwysig yng ngwleidyddiaeth yr oes yng ngogledd Cymru. Yn 1535 cafodd ei benodi gan Thomas Cromwell i oruwchwylio diddymu'r mynachlogydd yng Nghymru. Gwnaeth ei waith yn drwyadl a bu hynny yn achos sawl cwyn yn ei erbyn yn honni ei fod yn elwa'n bersonol o'r gwaith. Yn nes ymlaen, yn nheyrnasiad y breninesau Mari ac Elisabeth, bu'n Aelod Seneddol dros Sir Feirionnydd, ac yn Uchel Siryf Sir Ddinbych, Meirionnydd, Sir Fôn a Sir Gaernarfon.
Roedd Elis Prys yn noddwr hael i rai o brif feirdd y cyfnod. Adnewyddiodd Blas Iolyn tua'r flwyddyn 1560 a daeth yn gyrchfan poblogaidd er ei fod mor anghysbell. Ymhlith y beirdd a ganodd glod lletygarwch Plas Iolyn y mae Tudur Aled a Siôn Tudur.
Roedd y bardd Tomos Prys (c.1564-1634) yn fab iddo.