Elizabeth Andrews

trefnydd benywaidd cyntaf y Blaid Lafur yng Nghymru (1882-1960)

Roedd Elizabeth Andrews née Smith, (15 Rhagfyr 188222 Ionawr 1960) yn drefnydd gwleidyddol Cymreig ac yn ymgyrchydd dros hawliau merched.[1]

Elizabeth Andrews
Ganwyd1882 Edit this on Wikidata
Hirwaun Edit this on Wikidata
Bu farw1960 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Bywyd personol

golygu

Ganwyd Elizabeth Smith ym Mhenderyn, Sir Frycheiniog (Rhondda Cynon Tâf bellach) yn ferch i Samuel Smith, glöwr a Charlotte (née Evans) ei wraig. Roedd gan ei thad, uniaith Gymraeg, ddiddordeb byw mewn gwleidyddiaeth radical ei gyfnod a magwyd diddordeb Elizabeth yn y pwnc wrth iddi gyfieithu erthyglau gwleidyddol Saesneg iddo.

Derbyniodd addysg elfennol ym Mhenderyn gan adael yr ysgol yn 13 mlwydd oed.

Priododd Thomas Tye Andrews, asiant yswiriant ac un o sylfaenwyr y Blaid Lafur Annibynnol yn y Rhondda ym 1910. Ni chawsant blant.

Yn 17 mlwydd oed prentisiwyd hi i fod yn wniadwraig a chyn bo hir bu’n rhedeg ei gweithdy gwneud ffrogiau ei hun.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Andrews fel aelod o’r swffragetiaid. Rhwng 1910 a 1919 bu’n flaenllaw yn yr ymgyrch i sefydlu canghennau o Urdd Gydweithredol y Merched yn y Rhondda. Roedd yr Urdd yn trefnu ymgyrchoedd gwleidyddol ar faterion menywod, gan gynnwys iechyd a’r hawl i bleidleisio. Yn ystod y cyfnod hwn daeth hi’n arweinydd yr ymgyrch i gael golchdai yn y glofeydd[2] . Rhoddodd dystiolaeth gerbron pwyllgor Sankey a oedd yn ymchwilio i gyflog, amodau ac oriau gwaith y glowyr. Yn ei thystiolaeth pwysleisiodd pa mor anodd oedd bywyd gwragedd y glowyr a oedd yn gorfod delio a’r budreddi yr oedd eu gwŷr yn llusgo adref i’w tai; cyflwynodd dystiolaeth, hefyd, ar yr angen am wella stoc dai'r ardaloedd glofaol[3].

Ym 1919 penodwyd Andrews yn drefnydd menywod y Blaid Lafur yng Nghymru a bu hi’n brysur yn sefydlu adrannau menywod a phwyllgorau ymgynghorol y menywod trwy’r wlad. Yn dilyn rhoi’r bleidlais i fenywod ym 1919, un o’i thasgau cyntaf yn ei swydd newydd oedd cyfieithu taflenni a oedd yn egluro sut i bleidleisio ac annog defnydd o’r bleidlais. Bu hi hefyd yn annog merched mwy llewyrchus i roi benthyg dillad i ferched tlawd ar ddiwrnod etholiad, fel nad oeddynt yn teimlo cywilydd yn mynd i bleidleisio trwy ddiffyg dillad parch[4]. Bu yn y swydd am 29 mlynedd. Wedi ymddeol fel trefnydd cafodd ei hurddo â’r OBE am ei gwaith cyhoeddus.

Bu'n olygydd tudalennau’r merched yn y cylchgrawn The Colliery Workers’ Magazine a bu’n cyfrannu erthyglau’n gyson i’r Dinesydd Cymreig, cylchgrawn Cymraeg y mudiad llafur.

Ym 1957 cyhoeddodd fywgraffiad A Woman's Work is Never Done ailgyhoeddwyd y llyfr gan wasg Honno yn 2006 fel rhan o’u casgliad o glasuron[5] .

Ym 1920 penodwyd Andrews yn Ynad Heddwch ar fainc y Rhondda, yn un o’r merched cyntaf yng Nghymru i ddal y swydd.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg lle bu’n derbyn triniaeth yn dilyn codwm mewn cyfarfod yng Nghaerdydd. Amlosgwyd ei gweddillion yn amlosgfa Glyn-taf.

Cyfeiriadau

golygu