Elizabeth Gould Bell

meddyg a ffeminist Gwyddelig

Ffeminist Gwyddelig oedd Elizabeth Bell (24 Rhagfyr 1862 - 9 Gorffennaf 1934) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a swffragét, ond yn bennaf am fod yn un o'r menywod cyntaf i gymhwyso fel meddyg yn Iwerddon.

Elizabeth Gould Bell
Ganwyd24 Rhagfyr 1862 Edit this on Wikidata
Newry Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1934 Edit this on Wikidata
Belffast Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Prydain Fawr Prydain Fawr
Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Newry a bu farw yn Belffast.[1]

Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol y Frenhines, Belffast a Choleg Brenhinol Iwerddon. Roedd hi'n eiriolwr dros ddelfrydau ffeministaidd, a daeth yn un o'r menywod cyntaf i weithio gyda Chorfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol, gan wasanaethu fel meddyg ym Malta. Hyfforddodd Bell gyda phum merch arall yn Ysbyty Brenhinol Belffast nes iddi raddio. Dim ond Bell ac un fenyw arall a aeth ymlaen i dderbyn gradd brifysgol. Graddiodd Bell ym 1893 a pharhaodd â'i gwaith yn y maes meddygol. Ar ddiwedd 1893 cafodd ei henw ei gynnwys yng Nghyfeiriadur Meddygol Iwerddon a daeth yn aelod o Gymdeithas Feddygol Ulster.

Magwraeth, graddio a phriodi golygu

Ganwyd Elizabeth Gould Bell yn Newry, Sir Armagh, yn Iwerddon ym 1862. Roedd ei thad, Joseph Bell o Gastell Killeavy, yn glerc adnabyddus ar gyfer Undeb Cyfraith y Tlodion Newry (Saesneg: Newry Poor Law Union). Roedd mam Bell, Margaret Smith Bell, yn dod o fferm yn Carnegat, tref sy'n agos at Newry.[1]

Roedd Elizabeth Gould Bell yn un o bump o blant. Roedd Margaret Bell, ei chwaer, hefyd yn feddyg. Gyda’i gilydd, byddai Margaret ac Elizabeth yn tyfu i fod y menywod cyntaf i ennill gradd feddygol yn Iwerddon. Symudodd Margaret i Fanceinion i fod yn feddyg teulu.

Ym 1896, priododd Elizabeth Gould Bell â meddyg teulu, Dr. Hugo Fisher, yn Eglwys Bresbyteraidd Fitzroy yn Belfast. Yn fuan, gadawyd hi'n weddw, pan fu farw Fisher o dwymyn y teiffoid ym 1901.

Roedd gan y pâr un mab, yr Is-gapten Ddoctor Hugh Bell Fisher, a anwyd ar Ebrill 5, 1897 yn Belfast. Roedd yn fyfyriwr meddygol ugain oed ym Mhrifysgol y Frenhines, Belffast, alma mater ei fam, ac yn aelod o 2il Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Munster, pan fu farw o'i glwyfau mewn ysbyty yng Ngwlad Belg ar ôl ymladd ym Mrwydr Passchendaele, ar 23 Tachwedd 1917; rhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf, 4 mis cyn marw Hugh Bell Fisher.[1]

Y ffeminist golygu

Roedd Dr. Bell yn aelod o fudiad y bleidlais i ferched. Dechreuodd mudiad y bleidlais i ferched yn Iwerddon ym 1847 a chyrraedd ei nod ym 1922, pan roddwyd hawliau pleidleisio cyfartal i fenywod.[2]

Roedd hefyd yn ffrind i'r Pankhursts ac yn cytuno gydag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu'r WSPU). Galwyd aelodau o'r WSPU, gan gynnwys Dr. Bell, yn swffragetiaid, ac roeddent yn adnabyddus am ddefnyddio tactegau mwy milwriaethus yn eu hymgyrchoedd na grwpiau swffragetaidd eraill, fel Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Dioddefaint Merched (NUWSS).[3]

Daeth Dr. Bell yn gyfeillgar â'r arglwyddes Frances Balfour, a oedd yn swrffraget pwysig yn ystod yr amser hwn. Ym 1911, cymerodd Dr. Bell ran mewn gwrthdystiad WSPU yn Llundain, Lloegr. Yn ystod y brotest, taflodd Dr. Bell ac eraill gerrig trwy ffenestri y siop Swan and Edgar. Arestiwyd Dr. Bell a chafodd ei charcharu yng Ngharchar Merched Holloway.[3]

Ym 1912, daeth Dr. Bell yn feddyg ar gyfer swffragetiaid a oedd yn cael eu gorfodi i fwyta, gan yr heddlu. Gweithiodd yn benodol gyda chleifion ynng Ngharchar Crymlyn. Am ei gwaith gyda'r carcharorion swffragét, derbyniodd Bell dystysgrif o werthfawrogiad gan y WSPU. Credir bod tua 1,000 o ferched wedi bod yn rhan o fudiad etholfraint Wlster ym 1914, ond gostyngodd y rhan fwyaf o'r ymgyrchu ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Rea, S. M. (1934-07-21). "Dr. Elizabeth Gould Bell". BMJ 2 (3837): 146. doi:10.1136/bmj.2.3837.146. ISSN 0959-8138. PMC 5849977. PMID 29581632. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5849977.
  2. Ward, Margaret (1982-03-01). "'Suffrage First-Above All Else!' An Account of the Irish Suffrage Movement" (yn en). Feminist Review 10 (1): 21–36. doi:10.1057/fr.1982.3. ISSN 0141-7789.
  3. 3.0 3.1 Rea, Shelagh-Mary (12 Medi 2017). "Dr Elizabeth Gould Bell (1862 – 1934) - The First Woman to Graduate In Medicine And Practice In Ulster". The Ulster Medical Journal 86 (3): 189–195. PMC 5849977. PMID 29581632. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5849977.