Ellis Owen Ellis
arlunydd (1813 -1861)
Arlunydd a oedd yn gweithio yn y meysydd celf a phensaernïaeth oedd Ellis Owen Ellis (1813 – 17 Mai 1861). Arddangoswyd rhai o'i weithiau mewn orielau yn Llundain; efallai mai ei waith mwyaf adnabyddus yw The Battle of Rhuddlan Marsh, Caradog before Caesar in Rome a The Fall of Llywelyn, the last Prince of Wales.
Ellis Owen Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 1813 Aber-erch |
Bu farw | 17 Mai 1861 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd |
Cefndir
golyguGanwyd Ellis ym mhlwyf Abererch, Sir Gaernarfon. Roedd ei fam yn ferch i John Roberts ('Siôn Lleyn') ac roedd hefyd yn perthyn i John Thomas (Siôn Wyn o Eifion). Cafodd brentisiaeth fel saer coed ond roedd o mor dalentog roedd Syr Robert Williames Vaughan wedi trefnu iddo gyfarfod Syr Martin Archer Shee, paentiwr, ac fe'i cyflwynwyd gan Shee i arlunwyr eraill yn Llundain, lle aeth Ellis yn 1834 i astudio ac i baentio.[1]
Ffynonellau
golygu- NLW MSS1804, 1889, 9256;
- Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the *present (1908);
- Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru (1870);
- J. Jones (‘Myrddin Fardd’), Enwogion Sir Gaernarfon (1922)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "ELLIS, ELLIS OWEN ('Ellis Bryncoch'; 1813 - 1861), arlunydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-22.