John Thomas (Siôn Wyn o Eifion)

bardd

Bardd ac emynydd o Chwilog, Eifionydd oedd John Thomas (17 Medi 17868 Gorffennaf 1859), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Siôn Wyn o Eifion.

John Thomas
FfugenwSiôn Wyn o Eifion Edit this on Wikidata
Ganwyd17 Medi 1786 Edit this on Wikidata
Chwilog Edit this on Wikidata
Bu farw8 Gorffennaf 1859 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Siôn Wyn ym mhwlyf Chwilog yn 1786. Cafodd ddamwain yn fachgen naw oed a ddilynwyd o fewn tair blynedd gan gyfnod hir o waeledd a bu'n wael ei iechyd am weddill ei oes. Cafodd ei addysg yn ysgol Llanarmon lle daeth i adnabod David Owen (Dewi Wyn o Eifion).[1]

Oherwydd ei iechyd bregus, caethiwid y bardd ifanc i'w wely am gyfnodau hir, ond derbynnai nifer o ymwelwyr o blith llenorion yr hen Sir Gaernarfon a darllenodd yn helaeth. Yn ogystal â Dewi Wyn, ei gyfaill am oes, daeth yn gyfaill i Ddafydd Ddu Eryri. Derbyniodd lawer o garedigrwydd oddi wrth teulu Nannau hefyd.[1]

Cyfansoddodd gryn lawer o farddoniaeth, yn awdlau, pryddestau ac emynau, ond er iddo ennill gydnabyddiaeth gan ei gyd-lenorion nid enillodd wobr yn yr Eisteddfod. Cyhoeddwyd cyfrol o'i waith barddonol gan Robert Isaac Jones (Alltud Eifion), Tremadog yn 1861, dwy flynedd ar ôl marwolaeth Siôn Wyn.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Siôn Wyn o Eifion, Gwaith Barddonol Siôn Wyn o Eifion (Tremadog, 1861). Cyfrol sy'n cynnwys cofiant i'r bardd gan ei nai William Jones (Bleddyn).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922), tud. 50.