Aber-erch

pentref yng Ngwynedd
(Ailgyfeiriad o Abererch)

Pentref ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngwynedd, rhyw filltir i'r dwyrain o dref Pwllheli yw Aber-erch[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganaid ). Cyfeirnod OS: SH 39930 36719. Mae'n rhan o gymuned Llannor.

Aber-erch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCadfarch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.902°N 4.386°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH395365 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Aber-erch

Disgrifiad golygu

Saif y pentref ar Afon Erch ychydig cyn iddi gyrraedd y môr, a rhyw fymryn i'r gogledd o'r briffordd A497. Afon Erch yw ffin orllewinol Eifionydd, ac ystyrir y pentref yn rhan o'r ardal yma. Mae gan Abererch orsaf reilffordd, ond mae dipyn i'r de-ddwyrain o'r pentref ei hun, ger Morfa Abererch. Yma ceir tua thair milltir o draeth tywodlyd, yn ymestyn i'r dwyrain hyd at Benychain a gwersyll gwyliau Butlins.

Hanes a hynafiaethau golygu

I'r gogledd-ddwyrain mae hen blasdy Penarth Fawr.

Ceir eglwys hynafol Cawrdaf Sant yn y pentref. Ceir Ffynnon Gawrdaf i'r gogledd orllewin mewn cae rhwng y pentref ac ysbyty Bryn Beryl ac i'r dwyrain o'r pentref ceir carreg fawr a enwir yn 'Gadair Cawrdaf', gydag eisteddle ynddi. Roedd defod hynod yn gysylltiedig â gŵyl y sant yn yr eglwys.[3]

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 28 Mai 2023
  2. British Place Names; adalwyd 28 Mai 2023
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)