Emilia Clarke
Actores Seisnig yw Emilia Isabelle Euphemia Rose Clarke (ganwyd 23 Hydref 1986[1]) Caiff ei hadnabod fel Daenerys Targaryen, rôl mwyaf ei gyrfa hyd yma, yn y gyfres deledu boblogaidd Game of Thrones (HBO). Hyd at 2016 roedd wedi cael tri enwebiad 'Primetime Emmy Award am chwarae'r rhan yma: yn 2013, 2015 a hefyd yn 2016.
Emilia Clarke | |
---|---|
Ganwyd | Emilia Isobel Euphemia Rose Clarke 1986 Llundain |
Man preswyl | Berkshire, Hampstead, Venice |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Adnabyddus am | Game of Thrones |
Taldra | 157 centimetr |
Gwobr/au | MBE |
llofnod | |
Yn Broadway ym Mawrth 2013 yr ymddangosodd yn gyntaf: yn Breakfast at Tiffany's fel y cymeriad Holly Golightly. Yn 2015, serenodd fel Sarah Connor yn Terminator Genisys ac yn 2016 yn y ffilm rhamant Me Before You, a wnaeth incwm o $150 miliwn yn fyd-eang.
Yn 2015 enwyd hi gan y cylchgrawn Esquire fel y Sexiest Woman Alive.[2]
Gyrfa
golyguActiodd Clarke mewn dwy ddrama tra roedd yn Ysgol Uwchradd St Edward, Rhydychen, a deg yn y Coleg yng Nghanolfan Ddrama Llundain yn 2009: Company of Angels a Sense. Yn bu'n rhan o ddwy hysbyseb yr un flwyddyn, ar gyfer y Samaritans.[3] Serenodd mewn ffilm bychan i fyfyriwr o Brifysgol Llundain hefyd.[4] Actiodd yn broffesiynol yn y gyfres sebon Doctors yn 2009 a Savannah yn Triassic Attack y flwyddyn wedyn. Cafodd ei disgrifio gan y cylchgrawn Screen International fel "un o ser y dyfodol" ("UK Stars of Tomorrow").[5]
Yn 2010 cafodd y rhan a'i gwnaeth yn seren byd-enwog, sef fel Daenerys Targaryen yn y ffantasi Canol Oesol HBO: Game of Thrones, a oedd wedi'i sefydlu ar gyfres o lyfrau o'r enw A Song of Ice and Fire gan George R. R. Martin. Mewn cyfweliad dywedodd Clarke iddi wneud funky chicken a dawns robot yn y cyfweliad.[6]
Ffilmograffi
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2012 | Spike Island | Sally Harris | |
2012 | Shackled | Malu | Ffilm cwta |
2013 | Dom Hemingway | Evelyn Hemingway | |
2015 | Terminator Genisys | Sarah Connor | |
2016 | Me Before You | Louisa (Lou) Clark | |
2016 | Voice from the Stone | Verena | |
2017 | Above Suspicion | Ffilmio |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Me Before You on Twitter".
- ↑ "The Gorgeous Balance of Emilia Clarke, Sexiest Woman Alive 2015". Esquire. 13 Hydref 2015. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2015.
- ↑ Lisa's Story (YouTube). Samaritans. 2009-11-16.
- ↑ "Video of Emilia Clarke in Student Movie". sitmovie.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-24. Cyrchwyd 2016-07-15.
- ↑ "UK Stars of Tomorrow 2010". Screen Daily. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-15. Cyrchwyd 26 April 2013.
- ↑ Kevin, Patrick (20 Mawrth 2014). "Did the Funky Chicken land Emilia Clarke her 'Game of Thrones' role?". Los Angeles Times. Cyrchwyd 5 Mai 2014.