Pêl-droediwr o'r Yr Ariannin oedd Emiliano Raúl Sala Taffarel (31 Hydref 199021 Ionawr 2019). Bu farw mewn damwain awyren yn 28 mlwydd oed, ddiwrnodau ar ôl iddo arwyddo gyda Chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd.

Emiliano Sala
GanwydEmiliano Raúl Sala Taffarel (espagnol) Edit this on Wikidata
31 Hydref 1990 Edit this on Wikidata
Cululú Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ionawr 2019 Edit this on Wikidata
Môr Udd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin, yr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra187 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau75 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auChamois Niortais F.C., US Orléans, Stade Malherbe Caen, FC Girondins de Bordeaux, F.C. Nantes, C.P.D. Dinas Caerdydd Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Nhalaith Santa Fe, yn fab i Horacio Sala a'i wraig Mercedes Taffarel.

Diflaniad golygu

Ar 19 Ionawr 2019 arwyddodd Sala gytundeb gyda chlwb Dinas Caerdydd. Byddai'n trosglwyddo o glwb FC Nantes i Gaerdydd am tua £15 miliwn, a oedd yn record i'r clwb. Dychwelodd i Nantes yr un diwrnod i ffarwelio a'i gyd-chwaraewyr cyn teithio nôl i Gaerdydd i wylio'r gêm yn erbyn Newcastle.

Ar ddydd Llun, 21 Ionawr teithiodd Sala yn ôl o Nantes i Gaerdydd er mwyn dechrau ymarfer gyda tîm Caerdydd. Roedd yn teithio mewn awyren fechan Piper Malibu gyda'r peilot David Ibbotson. Yn ystod y daith gadawodd neges llais i'w ffrindiau drwy WhatsApp gan ddweud ei fod yn ofn fod yr awyren am "cwympo yn ddarnau". Diflannodd yr awyren o'r radar dros Môr Udd, ger Ynysoedd y Sianel a daethpwyd o hyd i'r awyren ar waelod y môr ar 3 Chwefror .[1] Codwyd y corff o'r awyren ar 6 Chwefror a'i gludo i Portland, Dorset. Yn hwyr ar 7 Chwefror cyhoeddodd yr heddlu fod y corff wedi ei adnabod yn ffurfiol fel Emiliano.[2]

  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Atal y chwilio am awyren yn cludo Emiliano Sala am y dydd". Unknown parameter |gwefan= ignored (help); Unknown parameter |adalwyd= ignored (help)
  2. Emiliano Sala: Body identified as Cardiff City footballer (en) , BBC News, 7 Ionawr 2019.