Emma Albani
cyfansoddwr a aned yn 1847
Soprano operatig o Ganada oedd Emma Albani (ganwyd Marie-Louise-Emma-Cécile Lajeunesse; 1 Tachwedd 1847 – 3 Ebrill 1930). Hi oedd y gantores gyntaf o Ganada i ddod yn seren ryngwladol.[1]
Emma Albani | |
---|---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 1847 Chambly |
Bu farw | 3 Ebrill 1930 Llundain |
Dinasyddiaeth | Canada, Ffrainc, y Deyrnas Unedig, Teyrnas yr Eidal |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, canwr opera, cyfansoddwr |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Math o lais | soprano |
Tad | Joseph Lajeunesse |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic |
llofnod | |
Fe'i ganwyd yn Chambly, Québec, i rieni Ffrangeg eu hiaith. Fe'i dysgwyd cerddoriaeth ganddynt cyn iddi fynd ym 1868 i astudio ym Mharis a'r Eidal, lle newidiodd ei henw i "Emma Albani". Bu’n llwyddiannus mewn tai opera ar draws Ewrop, gan gynnwys Llundain, lle daeth yn ffefryn gan y Frenhines Victoria. Ei pherfformiad operatig cyntaf yng Nghanada oedd ym 1883. Rhoddodd berfformiadau ledled y byd nes iddi ymddeol i Kensington, Llundain, ym 1911.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Potvin, Gilles (29 Ionawr 2008). "Dame Emma Albani". The Canadian Encyclopedia (yn Saesneg) (arg. online). Historica Canada. Cyrchwyd 17 Ionawr 2012.