Emma Raducanu
Emma Raducanu (Rwmaneg: Emma Răducanu; ganwyd 13 Tachwedd 2002) yn chwaraewr tenis proffesiynol sy'n chwarae dros y Deyrnas Unedig. Mae hi wedi ennill tri theitl sengl ar Gylchdaith ITF. Mae ganddi safle sengl uchel ei gyrfa o fyd Rhif 150 a gyflawnwyd ar 23 Awst 2021.
Emma Raducanu | |
---|---|
Ganwyd | 13 Tachwedd 2002 Toronto |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Canada Y Deyrnas Unedig Rwmania |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr tenis |
Prif ddylanwad | Li Na, Simona Halep |
Taldra | 1.75 metr |
Gwobr/au | Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, WTA Newcomer of the Year, MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Great Britain Billie Jean King Cup team |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Cafodd Raducanu ei geni yn Toronto, Ontario, Canada, yn ferch i Ion Răducanu a Renée, sy'n tarddu o Bucharest, Romania a Shenyang, Tsieina.[1][2] Symudodd ei theulu i Brydain pan oedd hi'n ddwy oed.[3] Dechreuodd chwarae tenis yn bump oed.[4] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Newstead Wood, ysgol ramadeg ddethol ym Mwrdeistref Bromley yn Llundain.[5][6]
Cododd Raducanu i amlygrwydd yn 2021. Yn rhif 338 yn y byd, fe gyrhaeddodd y bedwaredd rownd ar ei hymddangosiad cyntaf fel cerdyn gwyllt ym Mhencampwriaethau Wimbledon 2021. [7] Fe helpodd hyn Raducanu i gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach y flwyddyn honno, pan ddaeth yn gymhwysydd y Cyfnod Agored cyntaf i ennill y twrnamaint.[8][9]
Ym mis Ionawr 2022, cafwyd dyn yn euog o stelcian Raducanu. Dywedodd ei bod yn ofni mynd allan ar ei phen ei hun.[10] Ym mhencampwriaeth senglau Wimbledon yn 2022, trechwyd hi yn yr ail rownd gan Caroline Garcia.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Performanță uluitoare pentru Emma Răducanu. S-a calificat în finala de la US Open și a intrat în istoria tenisului VIDEO". Evenimentul Zilei (yn Romanian). 2021-09-10.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Emma Raducanu – Who is Britain's Chinese-Romanian teen tennis star?". South China Morning Post. Hong Kong. 2021-07-05.
- ↑ "Nothing to fear for Emma Raducanu in draw filled with intrigue". The Times (yn Saesneg). 5 Gorffennaf 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-05. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Emma Raducanu Bio". WTA. Cyrchwyd 10 Medi 2021.
- ↑ "Introducing Wimbledon 2021's Grand Slam debutantes". Women's Tennis Association.
- ↑ Dinu, Remus (1 Gorffennaf 2021). "EXCLUSIV Emma Răducanu, dialog cu Gazeta Sporturilor după prima victorie a carierei la Wimbledon". Gazeta Sporturilor. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021. (Rwmaneg)
- ↑ "Brit Raducanu, 18, into Wimbledon 4th round". ESPN.com (yn Saesneg). 3 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Raducanu beats Bencic, becomes 1st qualifier to reach US Open semis in Open Era". Women's Tennis Association (yn Saesneg).
- ↑ Livaudais, Stephanie (11 September 2021). "Qualifier Emma Raducanu completes 2021 US Open dream run". usopen.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Medi 2021. Cyrchwyd 12 Medi 2021.
- ↑ George Bowden (29 Ionawr 2022). "Emma Raducanu: Man found guilty of stalking British number one". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2022.
- ↑ Tumaini Carayol (29 Mehefin 2022). "Emma Raducanu out of Wimbledon after defeat by Caroline Garcia". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2022.