Emmeline Pethick-Lawrence
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Emmeline Pethick-Lawrence, y farwnes Pethick-Lawrence (21 Hydref 1867 - 11 Mawrth 1954) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros hawliau merched.[1] Sefydlodd Pethick-Lawrence y papur newydd Pleidleisiau i Fenywod gyda'i gŵr ym 1907.
Emmeline Pethick-Lawrence | |
---|---|
Ganwyd | 21 Hydref 1867 Bryste, Clifton, Bryste |
Bu farw | 11 Mawrth 1954 Gomshall |
Man preswyl | Bryste, Weston-super-Mare, Llundain, Dorking |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, swffragét, ymgyrchydd dros hawliau merched, golygydd |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Tad | Henry Pethick |
Priod | Frederick Pethick-Lawrence, barwn 1af Pethick-Lawrence |
Perthnasau | Henrietta Lawes |
Magwraeth
golyguFe'i ganed ym Mryste ar 21 Hydref 1867 a bu farw yn Gomshall, Surrey. Dyn busnes oedd ei thad a hi oedd yr ail blentyn o 13 o blant; fe'i danfonwyd i aros mewn ysgol breswyl pan oed yn 8 oed.[2][3][4][5][6][7]
Priododd Frederick Pethick-Lawrence, barwn 1af Pethick-Lawrence yn 1901, wedi iddi newid ei agwedd wleidyddol, gyda gogwydd tuag at y Rhyddfrydwyr. Roedd gan y ddau gyfrifon banc ar wahân, rhywbeth prin iawn yr adeg honno.[8]
O 1891 tan 1895 gweithiodd Pethick fel "chwaer y bobl" dros Genhadaeth Gorllewin Llundain yn Cleveland Hall, ger Sgwâr Fitzroy. Helpodd Mary Neal redeg clwb merched yn y genhadaeth. Yn hydref 1895, gadawodd hi a Mary Neal y genhadaeth i gyd-sefydlu'r Espérance Club, clwb i fenywod a merched ifanc na fyddent yn ddarostyngedig i gyfyngiadau'r genhadaeth, lle gallent arbrofi gyda dawns a drama. Dechreuodd Pethick hefyd Maison Espérance, cydweithfa gwneud gwisgoedd gydag isafswm cyflog, diwrnod wyth awr a chynllun gwyliau.[9] [10][11]
Ymgyrchydd dros hawliau merched
golyguRoedd Pethick-Lawrence yn aelod o Gymdeithas yr Etholfraint (the Suffrage Society) ac fe'i cyflwynwyd i Emmeline Pankhurst ym 1906. Daeth yn drysorydd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU), a sefydlwyd gan Pankurst ym 1903, a chododd £134,000 dros gyfnod o chwe blynedd.
Arestiwyd y pâr a'u garcharu yn 1912 am gynllwynio, yn dilyn protest a oedd yn cynnwys torri ffenestri, er eu bod ill dau wedi anghytuno â'r math treisgar hwn o weithredu. Ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar, cafodd y Pethick-Lawrences eu disodli o'r WSPU gan Emmeline Pankhurst a'i merch Christabel, oherwydd eu hanghytundeb ynglŷn ag ymgyrchu mwy radical, mwy milwriaethus.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Emmeline Pethick-Lawrence © Orlando Project". cambridge.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-13. Cyrchwyd 2019-04-13.
- ↑ Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/ Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Dyddiad geni: "Emmeline Pethick-Lawrence, Baroness Pethick-Lawrence". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emmeline Pethick-Lawrence". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad marw: "Emmeline Pethick-Lawrence, Baroness Pethick-Lawrence". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Emmeline Pethick-Lawrence". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Man geni: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/ Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Brian Harrison, 'Lawrence, Emmeline Pethick-, Lady Pethick-Lawrence (1867–1954)', Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Sept 2004; arlein Mai 2006 accessed 17 Tachwedd 2007
- ↑ Judge, Roy (1989). "Mary Neal and the Espérance Morris". Folk Music Journal 5 (5): 548. http://www.maryneal.org/file-uploads/files/file/1989s1a.pdf. Adalwyd 28 Awst 2013.
- ↑ Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Aelodaeth: https://spartacus-educational.com/Wpethick.htm. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://spartacus-educational.com/Wpethick.htm. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://spartacus-educational.com/Wpethick.htm. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://spartacus-educational.com/Wpethick.htm. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://womenvotepeace.com/women/emmeline-pethick-lawrence-bio/. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023. https://womenvotepeace.com/women/emmeline-pethick-lawrence-bio/. dyddiad cyrchiad: 21 Awst 2023.