Arwyddlun sy'n cael ei ddefnyddio mewn negeseuon electronig a thudalennau gwe yw emoji. Maent yn bodoli mewn nifer o ffurfiau, yn cynnwys edrychiadau neu ystumiau'r wyneb, gwrthrychau cyffredin, lleoedd a mathau o dywydd, ac anifeiliaid. Maent yn debyg iawn i emoticonau, ond mae emoji yn lluniau yn hytrach na theipograffigau.[1] Daw'r gair emoji o'r Japaneg e (, "llun") + moji (文字, "llythyren" neu "arwyddnod"); cyd-ddigwyddiad yw'r tebygrwydd i'r geiriau 'emosiwn' ac 'emoticon'.[2] Y cod sgript ISO15924 ar gyfer emoji yw Zsye.

Emoji hapus a grëwyd gan broject Noto

Yn deillio o ffonau symudol Siapaneaidd ym 1997, daeth yr emoji yn fwyfwy poblogaidd ledled y byd yn 2010au ar ôl cael eu hychwanegu at nifer o systemau gweithredu ffonau symudol.[3][4] Erbyn hyn ystyrir eu bod yn rhan fawr o ddiwylliant poblogaidd yn y gorllewin.[5]

Rhagflaenwyd yr emoji gan yr emoticon testun[6] a mathau eraill o gynrychioliadau graffigol, o fewn a thu allan i Japan.[7][8]

Cafodd y ffôn symudol cynharaf y gwyddys amdano a oedd yn cynnwys set o emoji ei ryddhau yn Japan gan J-Phone ar 1 Tachwedd 1997. Roedd y set o 90 emoji yn cynnwys llawer a fyddai'n cael eu hychwanegu yn ddiweddarach at y Safon Unicode, fel Tomen o Ddom, ond ni chawsant eu defnyddio'n eang ar y pryd am fod y ffôn yn ddrud iawn i'w brynu.[9]

Yn 1999, creodd Shigetaka Kurita y set gyntaf o emoji a ddefnyddiwyd yn eang.[10][11] Roedd yn aelod o'r tîm oedd yn gweithio ar lwyfan Rhyngrwyd symudol i-mode NTT DoCoMo.[12] Cymerodd Kurita ysbrydoliaeth o ragolygon y tywydd a oedd yn defnyddio symbolau i ddangos y tywydd, arwyddluniau Tsieineaidd ac arwyddion stryd, ac o Manga a oedd yn defnyddio symbolau stoc i fynegi emosiynau, megis bylbiau golau fel arwydd o ysbrydoliaeth.[12][13][14] Defnyddiwyd Emoji i ddechrau (gweler diwylliant ffonau symudol Japan) gan gwmnïau ffonau symudol Japan, NTT DoCoMo, au, a SoftBank Mobile (Vodafone gynt). Diffiniodd y cwmnïau hyn eu hamrywiadau emoji eu hunain gan ddefnyddio safonau perchnogol. Crëwyd y set gyntaf o emoji 12 × 12 picsel ar gyfer negeseuon i-mode i helpu i hwyluso cyfathrebu electronig, ac i fod yn nodwedd oedd yn eu gwahaniaethu oddi wrth wasanaethau eraill.[3] Creodd Kurita y 180 emoji cyntaf yn seiliedig ar yr wynebau a welai bobl yn eu gwneud, a phethau eraill, yn y ddinas.[14]

Ers 2010, mae rhai setiau o arwyddluniau emoji wedi'u hymgorffori i Unicode, system safonol ar gyfer mynegeio arwyddnodau, sydd wedi eu galluogi i gael eu defnyddio y tu allan i Japan ac i gael eu safoni ar draws gwahanol systemau gweithredu.

Mae poblogrwydd emoji wedi arwain at bwysau gan werthwyr a marchnadoedd rhyngwladol i ychwanegu dyluniadau i safon Unicode i gwrdd â gofynion gwahanol ddiwylliannau. Ychwanegodd Unicode 7.0 tua 250 emoji, nifer ohonynt o'r ffontiau Webdings a Wingdings.[15] Mae rhai arwyddnodau sydd bellach wedi'u diffinio fel emoji yn cael eu hetifeddu o amrywiaeth o systemau negesu cyn Unicode, ac nid rhai a ddefnyddiwyd yn Japan yn unig, gan gynnwys Yahoo a MSN Messenger.[16] Ychwanegodd Unicode 8.0 41 emoji arall, gan gynnwys gwrthrychau sy'n offer chwaraeon fel yr bat criced, eitemau bwyd fel y taco, arwyddion y Sidydd, ystumiau wyneb newydd, a symbolau ar gyfer addoldai.[17] Mae galw corfforaethol am safoni emoji wedi rhoi pwysau ar Gonsortiwm Unicode, gyda rhai aelodau'n cwyno ei fod wedi goddiweddyd ffocws traddodiadol y grŵp ar safoni arwyddnodau a ddefnyddir ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a thrawsgrifio cofnodion hanesyddol.[18]

Mae arwyddnodau emoji yn amrywio ychydig rhwng platfformau o fewn y cyfyngiadau ystyr a ddiffinnir gan fanyleb Unicode, wrth i gwmnïau wedi geisio ychwnaegu elfennau artistig i syniadau a gwrthrychau.[19] Er enghraifft, yn nhraddodiad Apple, mae'r emoji calendr ar gynnyrch Apple bob amser yn dangos 17 Gorffennaf, y dyddiad y cyhoeddodd y cwmni ei ap calendr iCal ar gyfer macOS yn 2002. Arweiniodd hyn at rai defnyddwyr cynnyrch Apple i alw Gorffennaf 17 yn "Ddiwrnod yr Emoji".[20] Mae ffontiau emoji eraill yn dangos dyddiadau gwahanol neu ddim yn dangos unrhyw ddyddiad penodol.[21]

Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd dadansoddiad teimladau o emoji,[22] a darparwyd Graddfa Teimlad Emoji 1.0.[23] Yn 2016, perfformiwyd sioe gerdd am emoji am y tro cyntaf yn Los Angeles,[24][25] a rhyddhawyd y ffilm animeiddiedig The Emoji Movie yn haf 2017.[26][27]

Ym mis Ionawr 2017, yn yr hyn y credir yw'r astudiaeth raddfa-eang gyntaf o ddefnydd emoji, dadansoddodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Michigan dros 1.2 biliwn o negeseuon a fewnbynnwyd drwy Allweddell Kika Emoji [28] a chyhoeddwyd mai'r emoji o wyneb gyda dagrau o lawenydd oedd yr emoji mwyaf poblogaidd. Daeth y llygaid fel calonnau yn ail a'r emoji calon yn drydydd. Roedd yr astudiaeth yn dangos gwahaniaethau rhwng diwylliannau: y Ffrancwyr oedd yn defnyddio'r emoji calon fwyaf aml,[29] roedd pobl Awstralia, Ffrainc a'r Weriniaeth Tsiec yn gwneud mwy o ddefnydd o'r emoji hapis, tra nad oedd hyn yn wir am bobl ym Mecsico, Colombia, Chile a'r Ariannin, lle roedd pobl yn defnyddio emoji mwy negyddol o gymharu â chanolfannau diwylliannol a oedd yn cael eu gweld yn fwy ymataliol a hunanddisgybledig, fel Twrci, Ffrainc a Rwsia.[30]

Problemau cyfathrebu gydag emoji

golygu

Mae ymchwil wedi dangos bod emoji yn aml yn cael ei gamddeall. Mewn rhai achosion, mae'r camddealltwriaeth hwn yn gysylltiedig â sut y caiff y dyluniad emoji ei ddehongli gan y derbynnydd;[31] mewn achosion eraill, nid yw'r emoji a anfonwyd yn cael ei ddangos yn yr un ffordd ar yr ochr sy'n ei dderbyn.[32]

Mae'r mater cyntaf yn ymwneud â dehongliad diwylliannol neu gyd-destunol yr emoji. Pan fydd yr awdur yn dewis emosiwn, maen nhw'n meddwl amdano mewn ffordd benodol, ond efallai na fydd yr un arwyddlun yn sbarduno'r un meddyliau ym meddwl y derbynnydd.[33]

Er enghraifft, mae pobl yn Tsieina wedi datblygu system ar gyfer defnyddio emoji yn gynnil, fel y gellid anfon wyneb hapus i gyfleu agwedd ddirmygus, watwarus, a hyd yn oed yn annymunol, am nad yw'r orbicularis oculi (y cyhyr ger y gornel uchaf llygad) ar wyneb yr emoji yn symud, ac mae'r orbicularis oris (yr un ger y geg) yn tynhau, a chredir ei fod yn arwydd o atal gwên.[34]

Mae'r ail broblem yn ymwneud â thechnoleg a brandio. Pan fydd awdur neges yn dewis emoji o restr, caiff ei amgodio fel arfer mewn modd an-graffigol yn ystod y trosglwyddiad, ac os nad yw'r awdur a'r darllenydd yn defnyddio'r un feddalwedd neu system weithredu ar gyfer eu dyfeisiau, gall dyfais y darllenydd gyflwyno'r un emoji mewn ffordd wahanol. Gall newidiadau bach i olwg arwyddlun newid ei ystyr canfyddedig yn llwyr gyda'r derbynnydd.

Emoji, Cymru a'r Gymraeg

golygu

Bathwyd y gair gwenoglun gan Nic Dafis ar gyfer emoticon wrth gyfieithu pecyn meddalwedd phpBB i'r Gymraeg yn 2002. Roedd hynny yn bennaf oherwydd fod y meddalwedd yn cyfeirio at 'smileys' - ffordd o osod gwynebau bychain o fewn neges.[35] Daeth y term yn boblogaidd ar wefan drafod Maes-e ond prin yw'r defnydd bellach ar y cyfryngau cymdeithasol wrth i'r defnydd o emojis ddisodli yr hen arddull testunol. Gwelir y defnydd o gwennoglun (sic) wrth gyfeirio at emoji [36] mewn erthygl gan Rhoslyn Prys ym mis Tachwedd 2015.

Cafwyd cyflwyniad ar yr emoji fel yr 'iaith newydd sy'n tyfu gyflymaf gan Dr Viv Evans o Brifysgol Bangor yn 2015 yn nodi twf yn y defnydd o'r ieithwedd.[37] ac holwyd "a yw emojis yn iaith?" ar BBC Radio Cymru yn 2016.[38]

Ar 26 Ionawr 2017 cyhoeddwyd y byddai Unicode yn rhyddhau baner Cymru yn emoji ar gael yn gyhoeddus.[39] Gwnaed hyn yn dilyn ymgyrch i sefydlu emoji baneri gwledydd Prydain ei ddechrau gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru, Owen Williams.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "The term from Emoji". Dizhaowa. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-04-17. Cyrchwyd 2023-04-25.
  2. Taggart, Caroline (5 Tachwedd 2015). "New Words for Old: Recycling Our Language for the Modern World". Michael O'Mara Books. Cyrchwyd 25 Hydref 2017 – drwy Google Books. Hard on the heels of the emoticon comes the Japanese-born emoji, also a DIGITAL icon used to express emotion, but more sophisticated in terms of imagery than those that are created by pressing a colon followed by a parenthesis. Emoji is made up of the Japanese for picture (e) and character (moji), so its resemblance to emotion and emoticon is a particularly happy coincidence.
  3. 3.0 3.1 Blagdon, Jeff (4 Mawrth 2013). "How emoji conquered the world". The Verge. Vox Media. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2013.
  4. "Android – 4.4 KitKat". android.com.
  5. "How Emojis took center stage in American pop culture". NBC News. 17 Gorffennaf 2017.
  6. "Happy 30th Birthday Emoticon!". Independent. 8 Medi 2012. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
  7. "Why Do We Use Emojis Anyway? A Fascinating History of Emoticons". Readers Digest. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
  8. "Emoji 101". Overdrive Interactive. 14 Hydref 2015. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
  9. Alt, Matt (7 Rhagfyr 2015). "Why Japan Got Over Emojis". Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
  10. Steinmetz, Katy (16 Tachwedd 2015). "Oxford's 2015 Word of the Year Is This Emoji". Time. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
  11. Sternbergh, Adam (16 Tachwedd 2014). "Smile, You're Speaking Emoji".
  12. 12.0 12.1 Negishi, Mayumi (26 Mawrth 2014). "Meet Shigetaka Kurita, the Father of Emoji". Wall Street Journal. Cyrchwyd 16 Awst 2015.
  13. "NTT DoCoMo Emoji List". nttdocomo.co.jp.
  14. 14.0 14.1 Nakano, Mamiko. "Why and how I created emoji: Interview with Shigetaka Kurita". Ignition. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mehefin 2016. Cyrchwyd 16 Awst 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  15. "Host of New Characters and Emoji Introduced in Unicode 7.0". Hexus. 17 Mehefin 2014. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
  16. "Unicode 8.0.0". Unicode Consortium. Cyrchwyd 17 Mehefin 2015.
  17. Warzel, Charlie. "Inside 'Emojigeddon': The Fight Over The Future of the Unicode Consortium". Buzzfeed. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
  18. Allsopp, Ashleigh (15 Rhagfyr 2014). "Lost in translation: Android emoji vs iOS emoji". Tech Advisor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 15 Awst 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  19. Varn, Kathryn (17 Gorffennaf 2015). "Letting Our Emojis Get in the Way". The New York Times. Cyrchwyd 25 Awst 2015.
  20. "Calendar emoji". Emojipedia. Cyrchwyd 15 Awst 2015.
  21. Kralj Novak, P.; Smailović, J.; Sluban, B.; Mozetič, I. (2015). "Sentiment of Emojis". PLoS ONE 10 (12): e0144296. arXiv:1509.07761. doi:10.1371/journal.pone.0144296. http://journals.plos.org/plosone/article?id=10.1371/journal.pone.0144296.
  22. "Emoji Sentiment Ranking". Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2015.
  23. Gans, Andrew (12 Ebrill 2016). "New Musical About Emojis Will Premiere in Los Angeles". Playbill. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2016.
  24. Cary, Stephanie (14 Ebrill 2016). "'Emojiland' is bringing your phone's emojis to life in LA". Timeout. Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2016.
  25. Fleming, Mike Jr. (Gorffennaf 2015). "Emoji at Center of Bidding Battle Won By Sony Animation; Anthony Leondis To Direct". Deadline. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
  26. Lawrence, Derek (27 Gorffennaf 2017). "The Emoji Movie: Here's what the critics are saying". Entertainment Weekly. Cyrchwyd 13 Awst 2017.
  27. "Emojis: How We Assign Meaning to These Ever-Popular Symbols". University of Michigan. 19 Mai 2017. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
  28. "People Around the World Use These Emojis The Most". Futurity. 3 Ionawr 2017. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
  29. "'Face with tears of joy' is the most popular emoji, says study". The Hindu. 12 Ionawr 2017.
  30. Larson, Selena (11 Ebrill 2016). "Emoji can lead to huge misunderstandings, research finds". Daily Dot. Cyrchwyd 30 Mawrth 2017.
  31. Miller, Hannah (5 Ebrill 2016). "Investigating the Potential for Miscommunication Using Emoji". Grouplens. Cyrchwyd 30 Mawrth 2017.
  32. "What the Emoji You're Sending Actually Look Like to Your Friends". Motherboard. 12 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
  33. "Chinese people mean something very different when they send you a smiley emoji". Quartz. 29 Mawrth 2017.
  34.  Roberts, Sian (22 Awst 2011). Re: emoticons/smileys etc termau negeseua gwib!!. welsh-termau-cymraeg.
  35. https://haciaith.cymru/2015/11/20/wordpress-ios-ar-gael-yn-gymraeg/
  36. https://www.bangor.ac.uk/languages-literatures-and-linguistics/newyddion/emoji-yn-iaith-newydd-sy-n-tyfu-gyflymaf-22835
  37. https://www.bbc.co.uk/programmes/b07tllxv
  38. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/38762050

Dolenni allanol

golygu