Mae'r Sidydd (Saesneg: Zodiac; Groeg: ζῳδιακός, zōidiakos) yn gylch o 12 rhaniad 30° ar hyd yr ecliptig, sef y llwybr ymddangosiadol y mae'r haul yn ei ddilyn dros gyfnod o flwyddyn. Mae llwybr y lloer a'r planedau'n agos iawn i'r eliptig sy'n ymestyn 8-9° i'r gogledd neu'r de ac a fesurir mewn lledred seryddol.

Sidydd
Enghraifft o'r canlynolset Edit this on Wikidata
MathPtolemaic system Edit this on Wikidata
Yn cynnwysYr Hwrdd, Y Tarw, Y Gefeilliaid, Y Cranc, Y Llew, Y Forwyn, Y Fantol, Y Sgorpion, Y Saethydd, Yr Afr, Y Dyfrwr, Y Pysgod, Ophiuchus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gelwir y rhaniadau hyn yn ddeuddeng "Arwydd". Mae arwyddion y Sidydd yn fwy hysbys mewn cyd-destun sêr-ddewiniol na seryddol, bellach.

Llawysgrif gan Gutun Owain a wnaed rhwng 1488 a 1489 yn dangos "Dyn y Sidydd" a symbolau astrolegol a nodiadau'n egluro pwysigrwydd astroleg o'r safbwynt meddygol. Cedwir y lawysgrifen hon yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Arwyddion y Sidydd

golygu

Rhennir y Sidydd yn ddeuddeg rhan (un i bob mis o'r flwyddyn), a rhoddir iddynt enw'r cytser agosaf. Mae'r tabl hwn yn dangos arwyddion y Sidydd gyda'r dyddiadau pan fydd yr haul yn mynd drwyddynt.

Cytser Arwydd Dyddiadau presenoldeb yr haul…
…yn yr arwydd …yn y cytser (yn 2000)
Yr Hwrdd   21 Mawrth i 20 Ebrill 20 Ebrill i 13 Mai
Y Tarw   21 Ebrill i 21 Mai 14 Mai i 19 Mehefin
Y Gefeilliaid   22 Mai i 21 Mehefin 20 Mehefin i 20 Gorffennaf
Y Cranc   22 Mehefin i 22 Gorffennaf 21 Gorffennaf i 9 Awst
Y Llew   23 Gorffennaf i 22 Awst 10 Awst i 15 Medi
Y Forwyn   23 Awst i 22 Medi 16 Medi i 30 Hydref
Y Fantol   23 Medi i 22 Hydref 31 Hydref i 22 Tachwedd
Y Sgorpion   23 Hydref i 22 Tachwedd 23 Tachwedd i 29 Tachwedd
Ophiuchus   (nid yw’n un o arwyddion y Sidydd) 30 Tachwedd i 17 Rhagfyr
Y Saethydd   23 Tachwedd i 21 Rhagfyr 18 Rhagfyr i 18 Ionawr
Yr Afr   22 Rhagfyr i 20 Ionawr 19 Ionawr i 15 Chwefror
Y Dyfrwr   21 Ionawr i 18 Chwefror 16 Chwefror i 11 Mawrth
Y Pysgod   19 Chwefror i 20 Mawrth 12 Mawrth i 18 Ebrill

Llawysgrif Gutun Owain

golygu

Mae rhan gyntaf Llawysgrif Gutun Owain (gweler y ddelwedd uchod) yn cynnwys cymysgedd o destunau'n ymwneud ag astroleg a meddygaeth. Roedd y cyfuniad yma yn gyffredin mewn llawysgrifau ledled Ewrop erbyn y 15g ac roedd cysylltiad agos rhwng amser y flwyddyn, tymhorau'r lleuad a ffactorau astrolegol eraill ac iechyd a medygaeth gan y byddent yn effeithio ar "hiwmorau"'r corff. Roedd y gred bod y corff dynol yn cynnwys pedwar "hiwmor" yn bodoli ers cyfnod y Groegiaid. Byddai gwahanol ffactorau'n effeithio ar yr hiwmorau hyn yn achosi afiechyd.

Cyfeiriadau

golygu